Mae meddyg teulu yn y gogledd yn dweud bod staff “dan bwysau” wrth geisio cydbwyso’r rhaglen frechu a gweithgaredd arferol.

Fe gadarnhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yr wythnos ddiwethaf fod ganddyn nhw 50% yn llai o staff yn darparu brechlynnau Covid-19 mewn canolfannau nag ers dechrau’r rhaglen.

Mae hynny’n golygu bod nifer sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig yng Ngwynedd, yn gorfod teithio ymhellach i dderbyn dos atgyfnerthu o’r brechlyn.

Ddechrau’r wythnos, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi eu bod nhw am ddosbarthu’r brechlyn atgyfnerthu i bobol dros 40 oed, ar ôl i’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) awgrymu y dylid gwneud hynny.

Dywed y bwrdd iechyd eu bod nhw’n ceisio recriwtio mwy o staff yn y cyfamser, gydag ychydig dros 1,000 o bobol yn mynegi diddordeb mewn ymuno â’r timau brechu.

Oedi mewn brechu

Mae Dr Phil White, meddyg teulu o’r gogledd a chadeirydd pwyllogor meddygon teulu Cymdeithas Feddygol Prydain, yn dweud ei fod yn bryderus ynghylch y sefyllfa fel y mae hi.

“Mae’r llefydd oedden ni’n defnyddio cynt wedi cael eu troi’n ôl i’w bwriadau gwreiddiol,” meddai ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.

“Hefyd, mae angen cofio bod lot o’r staff oedd yn y canolfannau yma wedi cael eu trosglwyddo o swyddi eraill yn y Gwasanaeth Iechyd.

“Nawr, maen nhw wedi cael eu trosglwyddo’n ôl i’w swyddi am eu bod nhw’n trio cael y Gwasanaeth Iechyd yn ôl i weithio’n iawn.

“Wrth gwrs, mae hyn wedi creu problemau – ar ben y ffaith ein bod ni’n ardal eithaf gwledig.”

Ardaloedd gwledig

Cyfeiriodd Dr Chris Stockport, Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal Sylfaenol a Chymunedol y bwrdd iechyd, at y rhaglen frechu yn ardaloedd gwledig Dwyfor a Meirionnydd, gan ddweud bod mesurau arbennig wedi eu cyflwyno i sicrhau bod y brechlyn yn cael ei ddosbarthu yn fwy effeithiol.

“Oherwydd bod ein gweithlu i weinyddu pigiadau Covid-19 wedi lleihau tua 50 y cant o’i gymharu â chychwyn y rhaglen, mae’n hanfodol ein bod ni’n defnyddio’r staff sydd gennym ni yn effeithiol, fel ein bod ni’n brechu’r rhai sydd mewn grwpiau blaenoriaeth cyn gynted â phosibl.

“Mae Meddygfeydd Teulu yn Nwyfor a Meirionnydd wedi defnyddio dull clwstwr i gefnogi’r rhaglen atgyfnerthu, gyda Tŷ Doctor yn Nefyn yn darparu gwasanaeth brechu i gleifion meddygfeydd eraill yn eu hardal.

“Yn wahanol i lawer o feddygfeydd ar draws Dwyfor a Meirionydd, mae Tŷ Doctor yn adeilad eang, sy’n gallu darparu ar gyfer y cyfnod gofynnol o arsylwi am 15 munud ar ôl derbyn y brechlyn, a hynny mewn ffordd ddiogel a gan gadw pellter cymdeithasol.”

Teithio’n bell

Mae Dr Chris Stockport yn nodi na fyddai’r rhaglen frechu’n gallu digwydd mor gyflym heb y trefniadau presennol, gan gydnabod fod rhai yn mynd i orfod teithio’n bellach o achos hynny.

“Er bod y dull hwn sy’n seiliedig ar glystyrau yn golygu y bydd rhai cleifion wedi cael eu gwahodd i deithio ymhellach ar gyfer eu hapwyntiadau brechu, mae wedi caniatáu ei gyflwyno’n gyflymach yn yr ardaloedd gwledig hyn,” meddai.

“Rydyn ni’n deall nad ydy hi’n bosib i rai pobol deithio’r pellteroedd hyn, ac mae sesiynau ychwanegol yn cael eu trefnu mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol i sicrhau bod pawb yn cael eu brechu.

“Rydyn ni’n cydnabod nad yw hon yn sefyllfa berffaith, ac rydyn ni wir yn gwerthfawrogi amynedd a dealltwriaeth pobol.”