Bydd dros £51m yn cael ei fuddsoddi mewn offer diagnostig newydd ar draws y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae’r offer newydd yn disodli hen offer er mwyn gwella amseroedd aros.

Bydd yn cynnwys uwchraddio sganiau MRI a CT gan sicrhau bod pobol sy’n aros am sgan yn cael eu gweld yn gynt.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – sy’n cynnwys siroedd Ceredigion, Caerfyrddin a Phenfro – fydd yn derbyn y gyfran fwyaf o’r arian, tros £12m o’r pecyn £51m.

Yn ail fydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, fydd yn derbyn buddsoddiad o £10.7m.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn derbyn £7.7m o gyllid, i adnewyddu sganwyr MRI a CT a chyfleusterau fflworosis yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Galw cynyddol

Yn ôl Eluned Morgan, yr Ysgrifennydd Iechyd, bydd yr arian newydd yn gymorth wrth i’r byd wynebu prinder offer diagnostig o ganlyniad i alw cynyddol.

“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan Wasanaeth Iechyd Cymru yr offer a’r offer diagnostig cywir sydd eu hangen i ofalu am bobol ledled Cymru,” meddai.

“Drwy sicrhau bod gennym gyfleusterau sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, gallwn wella gofal pobol yn sylweddol drwy ddiagnosis cynharach a mwy cywir a helpu i leihau’r straen a’r pryder y mae pobol yn eu profi wrth aros am y profion hyn.

“Mae gennym lawer o waith i’w wneud i leihau amseroedd aros, ond bydd buddsoddi yn y dechnoleg ddiagnostig ddiweddaraf yn helpu i gefnogi ymdrechion i wella o’r pandemig.”

“Bydd y cyllid hwn, yn ogystal ag uwchraddio ein hoffer delweddu digidol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, yn sicrhau bod gennym y cyfleusterau diagnostig o ansawdd uchel sydd eu hangen i ddarparu’r gwasanaethau mwyaf effeithlon posibl i bobl, a fydd yn chwarae rhan bwysig wrth fynd i’r afael ag amseroedd aros sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig,” meddai Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithredol Diagnosteg a Therapïau Clinigol.