Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Llywodraeth Cymru yn sgil eu cyhoeddiad na fydd newid i gyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru heddiw (dydd Iau, Tachwedd 18).

Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi y bydd Cymru’n aros ar lefel rhybudd sero.

“Mae’r Prif Weinidog yn ceisio portreadu darlun lle nad oes cyfyngiadau newydd yn cael eu cyflwyno, ond dyma’r wythnos pan fydd pasbortau brechlyn gorfodol, aneffeithiol a gwrth-fusnes wedi’u hehangu,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

Ers yr adolygiad diwethaf dair wythnos yn ôl, mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn pasys i sinemâu a theatrau.

Ond mae’r Llywodraeth yn dweud na fydd y pasys Covid yn cael eu hymestyn i leoliadau lletygarwch.

Serch hynny, mae Mark Drakeford yn rhybuddio y bydd pasys Covid yn aros dan ystyriaeth wrth i nifer yr achosion godi, gan roi mwy o bwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.

Bygythiad

Mae Russell George yn disgrifio’r rhybudd gan y Llywodraeth am ymestyn y pasys Covid fel “bygythiad”.

“Mae hyn [adolygiad] wedi dod ar y cyd â’r bygythiad i ddod â nhw [y pasys Covid] i mewn i hyd yn oed mwy o leoliadau fel y sector lletygarwch sydd eisoes wedi dioddef yn sylweddol yn ystod y pandemig, ond eto efallai y bydd costau ychwanegol ar waith i weithredu’r system basbort,” meddai.

“Mae pasbortau brechu yn gyfraith wael: nid oes tystiolaeth eu bod yn gweithio, p’un a yw hynny’n cyfyngu ar ledaeniad y feirws neu’n cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y brechlyn, a dylai’r Llywodraeth Lafur nodi amodau ar gyfer tynnu’n ôl.”

Eisoes mae’r Democratiaid Rhyddfrydol, sy’n gwrthwynebu’r defnydd o basys, yn dweud eu bod nhw am i’r Llywodraeth amlinellu pryd fydd y defnydd o’r pasys Covid yn dod i ben.

“Os yw gweinidogion yn pryderu am coronafeirws y gaeaf hwn, yna dylent weithredu ein cynigion i sefydlu canolfannau galw i mewn i bobol gymwys gael eu pigiadau atgyfnerthu, oherwydd rydym yn gwybod mai brechlynnau, nid pasbortau, sy’n ein cadw ni’n ddiogel,” meddai Russell George.

Dim newid i gyfyngiadau Covid-19 gyda Chymru’n aros ar rybudd lefel sero

Ond mae’r llywodraeth yn cadw’r opsiwn o ymestyn pasys dan ystyriaeth, os bydd nifer yr achosion yn codi gan roi mwy o bwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.

Sinema annibynnol yn Abertawe’n gwrthod gweithredu pasys Covid

Cadi Dafydd

“Mae’n gwahaniaethu, mae’n gwrthddweud ei hun, yn rhagrithiol, a does gan fusnesau annibynnol ddim yr adnoddau i gyflwyno’r fath raglen”

“Dim cynlluniau brys” i ehangu pasys Covid i dafarndai neu fwytai, yn ôl Llywodraeth Cymru

Daw hyn yn dilyn sylwadau’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei hadolygiad o’r cyfyngiadau ddydd Iau (Tachwedd 18)