Mae dau is-bostfeistr o Gymru ymhlith chwech yn rhagor sydd wedi cael clirio’u henwau yn sgil sgandal Horizon Swyddfa’r Post.

Cafwyd y chwech yn euog o dwyll a chyfrifo twyllodrus yn dilyn gwrandawiad yn Llys y Goron Southwark a ddaeth i ben heddiw (dydd Iau, Tachwedd 18).

Yn eu plith mae Anthony Gant o’r Drenewydd a Mohammed Aswal o Gasnewydd.

Y pedwar arall yw Amanda a Norman Barber, David Hughes a Balbir Grewal.

Daw’r dyfarniad ar ôl i erlynwyr benderfynu peidio â chyflwyno tystiolaeth.

Cefndir

Cafwyd cannoedd o bobol fu’n rhedeg swyddfeydd post yn euog o droseddau amrywiol o ganlyniad i system gyfrifiadurol wallus o 2000.

Cafodd Anthony Gant ddedfryd ohiriedig o chwe mis o garchar ar ôl pledio’n euog yn 2007 i gyhuddiad o gyfrifo ffug.

Roedd Swyddfa’r Post yn awyddus i ddwyn achos ar ôl i gyfrifon ddangos prinder o £14,550 yng nghangen Nantoer dros gyfnod o ddwy flynedd.

“Roedd hi’n anodd i fi hyd yn oed ddechrau’r broses hon o herio fy nghollfarn oherwydd, mewn nifer o ffyrdd, ro’n i wedi claddu’r holl niwed a phoen yr oedd wedi’i achosi ers cyhyd yn ddwfn yn fy meddwl,” meddai Anthony Gant.

“Bu bron i fi beidio eisiau edrych yn ôl a’i balu i gyd i fyny eto.

“Doedd dim ots beth fyddwn i’n ei wneud, roedd y cyfrifon bob amser yn brin.

“Ro’n i’n meddwl bod rhaid fy mod i’n gwneud rhywbeth o’i le, felly mi wnes i fenthyg arian o ble bynnag y gallwn i er mwyn gwneud yn iawn am y diffyg, gan roi miloedd o fy arian personol i mewn ar un adeg.

“Doeddwn i ddim yn gallu parhau i roi’r arian drwodd ac roedd y cyfrifon o hyd yn dangos ein bod yn brin o filoedd. Roedd yn erchyll.

“Roedd o’n destun pryder mawr ac roedd gormod o ofn arna i ddweud wrth neb oherwydd, yn syml iawn, doedd dim modd ei esbonio.”

Cafodd ei annog i bledio’n euog ar ôl cael clywed nad oedd unrhyw beth o’i le ar y system gyfrifiadurol, a hynny fel y byddai cyhuddiad arall o ddwyn yn cael ei ollwng.

“Allwch chi ddim wir egluro’r effaith ar eich bywyd,” meddai.

Cafwyd Mohammed Aslam o Gasnewydd yn euog o dri chyhuddiad o gyfrifo ffug ar ôl bod yn is-bostfeistr yn Albion Square.

Cafodd ei ddedfrydu i orchymyn cymunedol 12 mis a’i orfodi i gwblhau 40 awr o waith di-dâl yn 2007, a hynny o ganlyniad i brinder o £11,000 mewn cyfrifon.

Ymateb

Mae Swyddfa’r Post wedi ymddiheuro “am fethiannau hanesyddol a’r effaith ar fywydau’r bobol a gafodd eu heffeithio”.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw am “weithredu’n benderfynol” i wneud yn iawn am y sefyllfa.

Mae hynny’n cynnwys iawndal o hyd at £100,000 lle’r oedd data Horizon yn ganolog i gollfarnau.

Ac maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi cymryd camau i sicrhau nad yw’n digwydd eto.