Mae’r awdur Mike Parker wedi edrych yn ôl ar gyfnod “ffiaidd” Adran 28 y Ddeddf Llywodraeth Leol, a gafodd ei ddiddymu 18 mlynedd yn ôl i heddiw (dydd Iau, Tachwedd 18).

Roedd y ddeddf yn nodi nad oedd gan awdurdodau lleol yr hawl i “hyrwyddo cyfunrywioldeb” mewn ysgolion na sefydliadau addysg eraill.

Cafodd ei gweithredu yn 1988, tra bod Margaret Thatcher a’r Ceidwadwyr mewn grym yn San Steffan, a chymerodd hi tan 2003 i’r ddeddfwriaeth gael ei diddymu yng Nghymru a Lloegr.

Roedd yn gam mawr yn ôl i’r gymuned LHDT ar y pryd, a honno eisoes wedi dioddef erledigaeth sylweddol oherwydd y pandemig HIV/AIDS o’r 1980au.

Etholiad 1987

Mae’r awdur Mike Parker, sy’n hoyw ac wedi ysgrifennu’n helaeth am brofiadau’r gymuned, wedi bod yn siarad â golwg360 am y cyfnod tywyll hwn, a’r hyn arweiniodd at y ddeddfwriaeth yn y lle cyntaf.

“Daeth y ddeddf yn syth ar ôl Etholiad Cyffredinol 1987, ac fe ddefnyddiodd y Torïaid sylwadau cas a homoffobig bryd hynny,” meddai Mike Parker.

“Byddai’r un blaid wleidyddol flaenllaw yn meiddio defnyddio rhagfarn i gael cynnydd gwleidyddol.

“Roedden nhw’n defnyddio areithiau a phosteri homoffobig – ac fe wnaeth yr ymgeisydd ar gyfer sedd Pontypridd ar y pryd, Desmond Swayne, sefyll ar gyfer troseddoli pobol hoyw i stopio HIV.

“Roedd e’n ymgeisydd i’r Torïaid, nid rhyw ynfytyn ar yr ymylon na pherson anhysbys, a dyna fel oedd hi ar y pryd.”

‘Roedd e’n hollol ffiaidd’

Mae Mike Parker hefyd yn cyfeirio at y llyfr Jenny Lives with Eric and Martin, a oedd yn trafod cyfunrywioldeb, ac yn cael ei gyflwyno i ddisgyblion yn yr ysgol.

Dywed fod Adran 28 yn “ymateb erchyll ac adweithiol” gan y Torïaid i’r ffaith fod hwnnw’n cael ei ddysgu.

“Roedd yn ddeddf mewn cysyniad a dweud y gwir,” meddai.

“Yn y 15 mlynedd roedd yn bodoli, doedd o erioed wedi cael ei ymlid yn y llys, achos sothach gwenwynig oedd o wedi ei ddylunio i ddychryn pobol.

“Fe wnaeth o stopio oedolion ac athrawon rhag cefnogi plant hoyw, a pheidio â dysgu rhai darnau o lenyddiaeth achos bod cymeriad neu thema hoyw ynddyn nhw.

“Roedd e’n hollol ffiaidd, ac fe wnaeth o greu awyrgylch gwenwynig ar y pryd.”

18 mlynedd yn ddiweddarach

Mae Mike Parker yn amheus a ydyn ni mewn lle gwell nawr na bryd hynny, yn enwedig wrth ystyried y gymuned drawsrywiol.

“Rydyn ni wedi symud ymlaen o ran deddfau yn amlwg,” meddai.

“Ond dw i’n ofni braidd, achos mae yna lot o stwff gwrth-draws sy’n cael ei ddweud nawr.

“Mae llawer o’r stwff sy’n cael ei ddweud yn gopi llwyr o beth oedd yn cael ei ddweud yn erbyn pobol hoyw yn yr 80au, a arweiniodd at Adran 28.

“Yr un iaith, pigo ar yr un materion, a cheisio creu ofn yn erbyn rhan o’r gymuned.

“Rydyn ni mewn perygl mawr o fynd yn ôl, achos yn anffodus, dw i’n gweld rhai pobol hoyw hyd yn oed yn gryf yn erbyn pobol a hawliau trans.

“Mae fel petaen nhw wedi anghofio am yr holl bethau oedd yn cael eu dweud amdanyn nhw.

“Homoffobia a transffobia yw dechrau unrhyw ragfarn wastad – os edrychwch chi ar unrhyw drefn orthrymol mewn hanes, dyna beth yw’r sylfeini i bob un ohonyn nhw.”

Gobaith

“Un peth sy’n rhoi gobaith i fi yw fod rhagfarn byth yn parhau,” meddai Mike Parker ar nodyn mwy cadarnhaol.

“Cafodd Adran 28 ei geni allan o ragfarn llwyr, a wnaeth hynny ddim gweithio.

“Unwaith wnaeth y Torïaid ddod allan o’r cyfnod yna [yn y 90au], roedd yr holl bethau a ddywedon nhw yn fwrn arnyn nhw am flynyddoedd.

“Efallai ei bod hi’n cymryd amser hir, ond dw i’n licio meddwl bod unrhyw beth cas mae rhywun yn ei ddweud yn dod yn ôl i’w brathu nhw maes o law.”