Mae dynes o Ben-y-bont ar Ogwr fu’n helpu cyfieithwyr o Affganistan oedd wedi bod yn gweithio gyda lluoedd arfog y Deyrnas Unedig, yn dweud bod y sefyllfa’n “enfawr a gofidus”.
Mae Carolyn Webster wedi helpu dau gyfieithydd yn uniongyrchol i apelio yn erbyn penderfyniadau polisi adleoli a chymorth cyn iddyn nhw ddod i’r Deyrnas Unedig.
Mae hi’n amcangyfrif ei bod hi a nifer o unigolion eraill mewn cysylltiad ag oddeutu 20 yn rhagor o gyfieithwyr sy’n gymwys i ddod i’r Deyrnas Unedig, ond sydd wedi methu dod am sawl rheswm.
“Dw i’n cael galwadau’n gyson gan gyfieithwyr yn rhoi gwybod i fi eu bod nhw’n ei chael hi’n anodd yn ariannol i fwydo’u plant, neu eu bod nhw’n ei chael hi’n anodd am fod aelodau o’r teulu wedi’u cipio gan y Taliban.
“Mae gyda chi ddynion yn cuddio yn eu tai yn cael eu hela, a dydyn nhw ddim mewn cysylltiad cyson â Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Maen nhw’n estyn allan i rywun ar Twitter yn pledio am gymorth, yn pledio am eu bywydau.
“Mae’n waith caled, ond dw i’n credu bod dyletswydd foesol arnom yn y wlad hon i dderbyn y cyfieithwyr – maen nhw wedi gweithio ac wedi gwasanaethu’r wlad hon yn dda.”
Cymorth
Ers mis Awst, mae Carolyn Webster wedi mynd ati ar ei liwt ei hun i helpu cyfieithwyr ar ôl datgan ei chefnogaeth iddyn nhw, ac mae nifer wedi cysylltu â hi am gymorth i wneud ceisiadau.
Tra ei bod hi fel arfer yn helpu pobol sy’n byw dramor, bu’n cyfarfod ag un teulu yn y Deyrnas Unedig yn ddiweddar.
“Roedd angen i fi fod yn bresenoldeb corfforol y tu hwnt i’r geiriau mewn bocs ar gyfer y bobol rydyn ni’n eu helpu, ac mae’n gwneud i rywun sylweddoli mai pobol go iawn ydyn nhw,” meddai.
“Bydda i’n hapus iawn pan fydda i’n dechrau gweld mwy o’r dynion hyn a’u teuluoedd, eu babanod.
“Bydda i’n edrych ymlaen i’w gweld nhw, gweld fy ffrindiau – fy ffrindiau ydyn nhw nawr – yn cyrraedd y Deyrnas Unedig.”
Trafferthion
Mae’r rhai mae hi’n eu helpu eisoes wedi cael eu derbyn i deithio i’r Deyrnas Unedig.
Ond maen nhw’n cael trafferth teithio o ganlyniad i ddiffyg dogfennau neu eu bod nhw’n methu mynd i’r maes awyr o ganlyniad i bresenoldeb y Taliban.
Daeth milwyr ola’r Deyrnas Unedig adref o Affganistan ddiwedd mis Awst, gyda’r wlad yn nwylo’r Taliban eto ar ôl ugain mlynedd.
Cafodd mwy na 15,000 o bobol eu cludo o’r wlad, ond mae cyfieithwyr fu’n gweithio â’r Deyrnas Unedig yn dal yn y wlad.
Mae Carolyn Webster wedi canmol Llywodraeth y Deyrnas Unedig ond mae hi’n dweud bod y broses yn un araf, ac mae hi’n galw am ragor o gefnogaeth i’r rhai sy’n dal yn Affganistan.
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod y broses ymgeisio am gymorth yn dal ar agor a’u bod nhw’n parhau i roi cymorth i bobol mewn angen.