Mae’r ffigyrau perfformiad gwaethaf erioed wedi’u cofnodi gan adrannau brys ysbytai a’r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru.
Mae’r ffigyrau ar gyfer mis Hydref yn dangos bod llai na 65% o gleifion wedi treulio llai na phedair awr mewn adrannau fel adran damweiniau ac achosion brys.
Ymatebodd y gwasanaeth ambiwlans i hanner y galwadau lle’r oedd bywyd mewn perygl ar unwaith o fewn wyth munud.
Dywed cyfarwyddwr conffederasiwn GIG Cymru fod y gwasanaeth yn wynebu “pwysau anghynaladwy”.
Mae’r data hefyd dangos cynnydd eto mewn rhestrau aros, gyda 668,801 o bobol yn aros am driniaeth ym mis Medi.
Mae hyn yn cyfateb i 21% o boblogaeth Cymru.
‘Her enfawr’
Dywed Dr Suresh Pillai, Is-lywydd Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys Cymru, wrth BBC Wales fod y data “unwaith eto’n dangos dirywiad pellach mewn perfformiad”.
Daw hyn wrth i Gydffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, y corff sy’n cynrychioli byrddau iechyd, rybuddio bod prinder yn y sector gofal yn profi’n “her enfawr” ac yn cynyddu’r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys a’r gwasanaeth ambiwlans.
Yn ôl y cyfarwyddwr Darren Hughes, mae cynifer â 15% o welyau acíwt mewn ysbytai yn cael eu llenwi gan bobol sy’n feddygol ffit i adael yr ysbyty ond sy’n dal i aros i ofal gael ei drefnu mewn mannau eraill.
Ystadegau
Dengys yr ystadegau mai dim ond 64.9% o gleifion a dreuliodd lai na phedair awr mewn adrannau brys yn ysbytai Cymru cyn cael eu derbyn, eu trosglwyddo, neu eu rhyddhau ym mis Hydref.
Roedd hyn wedi gostwng o 66.8% ym mis Medi – sy’n record – ac yn llawer is na’r targed o 95%.
Yn ôl yr ystadegau, fe wnaeth 9,484 o bobol aros dros 12 awr mewn adrannau brys, er bod y targedau’n nodi na ddylai neb orfod aros mor hir â hynny.
Yn ystod mis Hydref, ymatebodd y gwasanaeth ambiwlans i hanner y “galwadau coch” o fewn wyth munud, sydd i lawr o 52.3% ym mis Medi.
Dyma’r amseroedd ymateb misol gwaethaf ers i dargedau newydd gael eu cyflwyno yng Nghymru yn 2015.
Dydy’r targed o 65% ddim wedi’i gyrraedd am bymtheg mis yn olynol.
O ran rhestrau aros am driniaethau, dangosa’r ystadegau bod 240,606 o bobol yn aros ers dros naw mis am driniaeth.
Er bod gostyngiad wedi bod ers mis Medi, mae’r ffigwr yn parhau i fod yn naw gwaith yn uwch nag ar ddechrau’r pandemig.
‘Trasiedi’
Yn ôl Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, mae’r ffigurau newydd hyn yn “drasiedi”.
“Nid yw targedau hyd yn oed yn agos at gael eu cyrraedd ac mae amseroedd ymateb ambiwlansys wedi dirywio ymhellach,” meddai.
“Rydym i gyd yn deall y pwysau difrifol y mae’r pandemig wedi’i roi ar y Gwasanaeth Iechyd, ond nid yw’r problemau hyn yn newydd.
“Os ydym am leihau’r pwysau ar ein hadrannau brys a’n gwasanaethau ambiwlans, mae’n rhaid i ni fuddsoddi mwy mewn gofal iechyd cymunedol a meddygon teulu.
“Pe gallai pobol gael apwyntiad meddyg teulu mewn amser rhesymol, byddai llawer llai o bwysau ar y gwasanaethau brys.”
‘Methiannau systematig’
Mae’r Ceidwadwyr Cymraeg yn rhybuddio bod angen i’r Llywodraeth fynd i’r afael â’r argyfwng wrth i ni fynd i mewn i’r gaeaf.
“Ni ellir rhoi’r bai yn unig ar faterion hirsefydlog fel toriadau mewn gwelyau o 30% dros 22 mlynedd a 3,000 o swyddi gwag presennol staff ar y pandemig, gan fod nifer o fethiannau systemig dros y blynyddoedd wedi arwain Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru at bwynt torri,” meddai llefarydd.
“Mae’r gwasanaeth ambiwlans mewn argyfwng ac i fynd i’r afael ag ef mae angen i ni ddatrys problemau mewn rhannau eraill o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sy’n golygu ymgyrch i gynyddu gwybodaeth ac annog defnydd o unedau mân anafiadau yn ogystal â gweithredu ar ein galwadau hirdymor am ganolfannau llawfeddygol rhanbarthol i fynd i’r afael ag ôl-groniad enfawr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r data diweddaraf yn dangos bod y pwysau ar ein system iechyd a gofal yn parhau i dyfu. Ond mae ein staff iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i weithio’n galed i ddarparu gofal o safon uchel pan fydd pobol ei angen.
“Rydym wedi buddsoddi £248m ychwanegol eleni i drawsnewid gwasanaethau a mynd i’r afael ag amseroedd aros, ond oherwydd y pwysau parhaus ac effeithiau’r pandemig nid ydym yn disgwyl y byddwn yn gweld cynnydd gwirioneddol cyn y gwanwyn.
“Mae’r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru, fel gweddill y Deyrnas Unedig, yn parhau i fod o dan bwysau enfawr. Roedd nifer y galwadau coch, sy’n alwadau lle mae bygythiad i fywyd, ar y lefel uchaf a gofnodwyd erioed ym mis Hydref. Roedd nifer y galwadau ym mis Hydref hefyd 24% yn uwch nag ym mis Hydref y llynedd.”
Maen nhw hefyd yn dweud eu bod nhw wedi buddsoddi £25 miliwn eleni i drawsnewid y gwasanaeth gofal brys, yn ogystal â recriwtio 120 o staff i wasanaethu’r gwasanaeth ambiwlans.