Bu’n rhaid i dad-cu 85 oed aros 13 awr am ambiwlans wedi iddo gael strôc, ac mae ei deulu yn poeni am na fydd yn e’n gwella’n llawn.

Roedd David Evans o Aberpennar, Rhondda Cynon Taf, yn ei gartref pan gafodd parafeddygon eu galw ar 25 Hydref.

Cafodd yr alwad gyntaf ei gwneud am 6.45 y nos ond ni wnaeth yr ambiwlans gyrraedd tan 7.45 y bore wedyn, gyda mab Mr Evans, Chris, yn dweud wrth BBC Cymru mai hon oedd “noson hiraf fy mywyd”.

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi ymddiheuro am yr “oedi annerbyniol”.

Dywedodd Chris Evans, sy’n 52 oed: “Dydw i erioed wedi teimlo mor ddiymadferth.”

Mae’r Gymdeithas Strôc wedi dweud ei bod yn “bryderus iawn” am oedi mewn ambiwlansys i bobl sy’n cael strôc, ac wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd yn gofyn iddo fynd i’r afael â’r mater.

Strôc

Cafodd Chris Evans alwad gan gymydog ei dad yn dweud ei fod wedi syrthio yn ei gartref.

Mae’n credu bod ei dad wedi cael y strôc ar waelod y grisiau, ac wedi cropian nôl i fyny i gael gafael ar ffôn er mwyn galw am help, gan fod ganddo losgiadau carped ar ei liniau a’i benelin.

Ar ôl symud ei dad i’w wely, fe alwodd 999 eto, ac fe ddywedodd Chris Evans fod y teulu wedi cael gwybod y byddai’r ambiwlans yn cymryd pump i wyth awr.

“Cawsom alwad clinigol i gadarnhau mai strôc oedd yr hyn yr oeddem yn ei arsylwi, mae’n debyg, ac yna naw awr i mewn i’r [aros am yr] ambiwlans, ffoniais eto,” meddai.

“Dywedodd y triniwr galwadau wrthyf eu bod yn brysur iawn ac roedd pobl â chyflyrau mwy bygythiol na fy nhad i’w gweld.”

Dywedodd Chris Evans na ddaeth parafeddyg tan 7.45 y bore, 13 awr ar ôl yr alwad gyntaf.

Mewn datganiad fe ddywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fod y lefel hwnnw o wasanaeth yn annerbyniol.

Dywedodd Darren Panniers, pennaeth gwasanaeth de-ddwyrain Cymru: “Rydym yn cydnabod pa mor ofidus yw hi i gleifion pan fydd yn rhaid iddynt aros yn hir iawn. Nid yw’n sefyllfa dderbyniol i unrhyw un.”

Cyhuddo Llywodraeth Cymru

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Llywodraeth Cymru dros achos David Evans.

Fe ddywedodd Russell George AoS, Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros faterion Iechyd, nad yw Llywodraeth Cymru’n mynd i’r afael â’r “argyfwng”.

“Mae hyn yn mynd y tu hwnt i’r gwasanaeth ambiwlans yn unig ac mae’n amlygu problemau o fewn ysbytai ac adrannau damweiniau ac achosion brys.

“Yn anffodus, mae gweinidogion Llafur yn dal i wneud tro gwael gydag ein Gwasanaeth Iechyd, pandemig neu ddim pandemig.”

“Pe bai [Llywodraeth Cymru] heb dorri nifer gwelyau’r Gwasanaeth Iechyd gan 30% ers datganoli, a chyflwyno cynigion y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer canolfannau diagnostig i ddelio â’r rhestrau aros am driniaethau a achoswyd gan Covid, efallai na fyddai David wedi gorfod aros dros hanner diwrnod am sylw meddygol.”

Llywodraeth Cymru

Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y Gwasanaeth Ambiwlans yn “gweithio’n galed i ymateb i’r heriau parhaus a sylweddol o ganlyniad i’r pandemig”.

“Mae cynllun cyflawni gweithredol ar waith i helpu i reoli galwadau 999 yn y gymuned, cynyddu capasiti a gwella’r broses o drosglwyddo cleifion ambiwlans.

“Yn ddiweddar, gwnaethom lansio rhaglen genedlaethol newydd i wella llif cleifion drwy’r system ysbytai a dychwelyd adref pan fyddant yn barod i wneud hynny, ochr yn ochr â £25m o gyllid rheolaidd.”

Dwy ambiwlans yn gadael Ysbyty Glangwili

Oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys yn “rhwystro’r gwaith o roi gofal ymatebol, diogel ac urddasol”

Er hynny, daeth adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i’r casgliad bod cleifion yn gadarnhaol am eu profiadau â chriwiau ambiwlans
Ambiwlans

Rhybuddio bod bywydau cleifion yn y fantol oherwydd dirywiad sydyn mewn gwasanaethau Iechyd a Gofal

BMA Cymru wedi ysgrifennu at Weinidog Iechyd Cymru yn galw am wneud newidiadau radical i’r system