Brechdan bacon yw hoff frechdan dinasyddion y Deyrnas Unedig, yn ôl ymchwil cenedlaethol newydd.

Er mwyn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Frechdan yr wythnos hon, fe wnaeth cwmni Foodhub ymchwil i weld beth yw hoff frechdan pobol gwledydd Prydain.

Dywedodd 20% o’r rhai a holwyd mai cig moch yw eu hoff fwyd i’w roi ar frechdan, gyda chaws (18%) yn dod yn ail agos.

Caws a phicl oedd yn drydydd (15%), a daeth ham a chaws yn bedwerydd.

Golyga hyn fod y frechdan gig moch yn ail-gipio ei lle fel hoff frechdan dinasyddion y Deyrnas Unedig, ar ôl colli ei safle yn 2020.

Hambyrgyr ddaeth i’r brig yn 2020, gan achosi dadlau ar y cyfryngau cymdeithasol wrth i filoedd o bobol fynnu na ddylai hambyrgyr gael ei ystyried fel brechdan.

Bara gwyn ar y brig

Dywedodd dros chwarter y cyfranwyr mai bara gwyn wedi’i sleisio yw eu hoff fara wrth wneud brechdan.

Daeth bagets Ffrengig yn ail (26%), a bara grawn cyflawn yn drydydd (22%).

Roedd 48% o’r rhai atebodd yn dweud mai mayonnaise oedd eu hoff beth i’w ychwanegu at frechdan (48%), gan gipio’r teitl oddi wrth fenyn traddodiadol.

Dangosodd yr astudiaeth mai brechdanau yw hoff fwyd pobol yn y Deyrnas Unedig ar gyfer eu cinio, gyda 48% yn eu ffafrio.

Dywedodd 28% eu bod nhw’n ffafrio cawl, a dywedodd 22% mai taten trwy’i chroen yw eu hoff bryd i’w gael i’w cinio.

Mae un ymhob pum person yn y Deyrnas Unedig yn dweud eu bod nhw’n bwyta brechdan bob un diwrnod hefyd.

“Caru cig moch”

Dywedodd Adrian Mula, llefarydd ar ran Foodhub, “ein bod ni’n gwybod bod Prydain yn caru cig moch, felly doedd hi ddim yn syndod gweld hynny’n dod i’r brig fel hoff frechdan y genedl”.

“Fodd bynnag, roedden ni’n synnu wrth weld caws a phicl yn cyrraedd y tri uchaf. Roedd hi’n agoriad llygad gweld mai mayonnaise yw hoff sôs y Deyrnas Unedig, cyn menyn, hefyd.”

Dywedodd un ymhob pum person rhwng 55 a 64 oed eu bod nhw’n ffafrio brechdan wy a mayonnaise, tra mai dim ond 10% o bobol rhwng 18 a 24 ddywedodd hynny.

Roedd y grŵp oedran ieuengaf yn ffafrio brechdan ham a chaws.

Pandemig = mwy o fynd ar frechdanau

Mae’n ymddangos bod y pandemig wedi effeithio’n sylweddol ar faint o frechdanau mae pobol yn eu bwyta, wrth i 21% o’r rhai holwyd ddweud eu bod nhw’n bwyta mwy o frechdanau nawr o gymharu â’r adeg hon llynedd.

Hoff frechdanau’r Deyrnas Unedig:

  1. Cig moch (20%)
  2. Caws (18%)
  3. Caws a phicl (15%)
  4. Ham a chaws (15%)
  5. Wy a mayonnaise (15%)
  6. Cyw iâr (14%)
  7. Tiwna (12%)
  8. Selsig (12%)
  9. Cyw iâr a chig moch (12%)
  10. Corgimwch a mayonnaise (11%)

Hoff bethau’r Deyrnas Unedig i’w fwyta i ginio:

  1. Brechdan/wrap (48%)
  2. Cawl (28%)
  3. Taten trwy’i chroen (22%)
  4. Salad (18%)
  5. Bîns ar dost (18%)
  6. Sglodion a physgodyn (17%)
  7. Pasta (16%)
  8. Pastai (15%)
  9. Sbarion te neithiwr (10%)
  10. Pryd efo reis (10%)