Mae Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Prydain, Nadhim Zahawi, wedi ymbil ar bobol ifanc i beidio â phrotestio ynghylch newid hinsawdd yn ystod oriau ysgol.

Bydd miloedd o bobol ifanc yn gorymdeithio yng Nglasgow heddiw (5 Tachwedd) wrth i drafodaethau COP26 barhau.

Mae’r protestwyr yn galw ar arweinwyr a gwleidyddion i gymryd mwy o gamau yn erbyn newid hinsawdd, ac fe fydd yr ymgyrchwyr ifanc Greta Thunberg a Vanessa Nakate ymhlith y rhai sy’n annerch y dorf.

Ond mae Nadhim Zahawi yn dweud y dylai’r orymdaith fod yn digwydd ar y penwythnos, fel nad yw’r plant yn absennol o’r dosbarth.

Dim cefnogaeth

Mewn cyfweliad â Sky News, fe ddywedodd Zahawi ei fod yn erbyn pobol ifanc yn colli ysgol i ymuno â’r protestiadau.

“Byddai’n well gen i pe baen nhw’n gorymdeithio ar ddydd Sadwrn a Sul,” meddai.

“Mae’r uwchgynhadledd yma am o leiaf dau benwythnos, felly byddwn i’n annog y plant i beidio methu ysgol a dosbarthiadau.

“Dydyn ni ddim eisiau cyrraedd sefyllfa ble mae athrawon a phrifathrawon yn gorfod rhoi dirwy am fethu gwersi.

“Byddwn i’n eu cefnogi nhw’n llwyr pe baen nhw’n [protestio] dros y penwythnos yma neu’r nesaf – dyna’r ffordd i barhau i gyfleu’r neges i arweinwyr byd.”

Roedd Zahawi’n ychwanegu y dylai plant ifanc “ystyried gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg ac arloesi” i daclo newid hinsawdd, yn hytrach na phrotestio.

“Rydw i eisiau ysbrydoli’r meddyliau ifanc ar ddydd Sadwrn neu Sul os ydyn nhw yma,” meddai.

“Byddwn i’n dweud wrthyn nhw: cysylltwch â ni, achos mae’n bwysig eich bod chi’n rhan o’r ateb, yn ogystal â rhoi pwysau ar arweinwyr y byd.”

Dim dewis

Roedd Evelyn Acham, ymgyrchydd sy’n rhan o’r mudiad ‘Rise Up’ yn Affrica, yn dweud fod gan bobol ifanc “ddim dewis” ond rhoi eu bywydau ar stop er mwyn gweithredu.

“Mae cymaint o bobol ifanc wedi aberthu’r ysgol i fod yn ymgyrchwyr llawn-amser,” meddai.

“Mae rhai wedi aberthu gwaith, neu eu gradd, dim ond am eu bod nhw’n gweld brys hyn.

“I’r holl bobol ifanc, mae hyn yn ddybryd, achos ni sy’n gorfod mynd yn ôl i’r ysgol, ni sy’n gorfod canolbwyntio ar ein dyfodol.

“Mae’r genhedlaeth hŷn wedi cyflawni cymaint yn barod, a bydd [newid hinsawdd] mwy na thebyg ddim yn gymaint o broblem iddyn nhw.”