Mae 13 o gynghorau sir ledled Cymru wedi cefnogi cais, gan elusen anifeiliaid yr RSPCA, sy’n galw ar drefnwyr digwyddiadau tân gwyllt i roi gwybod i’r cyhoedd amdanyn nhw o flaen llaw.
Y nod yw hysbysu pobl sydd ag anifeiliaid neu bobl fregus i baratoi ar gyfer unrhyw dân gwyllt a allai beri gofid.
Erbyn 3 Tachwedd, ar draws Cymru a Lloegr, roedd yr elusen eisoes wedi cael 3,118 o ymatebion i’w cais – llawer mwy na’r disgwyl, medden nhw.
Abertawe yw’r cyngor sir ddiweddaraf i ymuno â’r 12 awdurdod lleol arall, wedi pleidlais unfrydol o gefnogaeth gan gynghorwyr ar y mesur.
Mae’r cynnig hefyd yn galw ar yr awdurdod lleol i hyrwyddo ymgyrch ymwybyddiaeth yn lleol am effaith tân gwyllt, ac i annog cyflenwyr lleol i stocio tân gwyllt “tawelach”.
Dydy’r Co-op ddim wedi eu gwerthu ers pum mlynedd, ac mae Sainsbury’s hefyd wedi gwneud safiad yn eu herbyn ers 2019.
Ond bydd Tesco, Aldi a Morrisons yn parhau i’w gwerthu tra bydd Asda yn cynnig tân gwyllt sy’n creu llai o sŵn.
Galw am weithredu
Mae Cyngor Abertawe hefyd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn eu hannog i ddefnyddio unrhyw rymoedd datganoledig yn eu meddiant i leihau’r risgiau y mae tân gwyllt yn eu hachosi i anifeiliaid a thrigolion sy’n agored i niwed.
Er bod rheoleiddio tân gwyllt yn fater sydd dan reolaeth San Steffan yn bennaf, mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei bod yn awyddus i weithredu.
Yn dilyn ymgyrch ‘Bang Out Of Order’ gan yr RSPCA mae Aelodau o’r Senedd wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru i dynhau mesurau ar eu gwerthiant.
Fe ddywedodd Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, ei bod yn bwysig ein bod yn “meddwl am ein hanifeiliaid anwes” gan gyfaddef fod gan y Llywodraeth “le i wella rywfaint” yn hyn o beth.
Ychwanegodd ei bod yn “falch iawn o weld nad yw rhai archfarchnadoedd yn gwerthu tân gwyllt eleni”.
Bellach mae 13 o 22 awdurdod lleol Cymru wedi cefnogi cais yr RSPCA – gyda Chaerffili, Sir Gaerffordd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Casnewydd a Wrecsam ar y rhestr.
Dywedodd rheolwr ymgyrchoedd yr RSPCA, Carrie Stones: “Rydym yn gwybod bod Noson Guto Ffowc yn amser pryderus iawn i anifeiliaid anwes, eu perchnogion ac anifeiliaid eraill hefyd.
“Felly rydym wrth ein bodd mai Cyngor Abertawe yw’r diweddaraf yng Nghymru i gefnogi ein cynnig i gynghorau sir – gan baratoi’r ffordd ar gyfer cymryd camau synhwyrol a fydd yn helpu i sicrhau parodrwydd yn lleol; a lliniaru rhai o’r agweddau dychrynllyd ar dân gwyllt i anifeiliaid.”