Mae Aelodau o’r Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau llymach ar werthu tân gwyllt.

Yn dilyn ymgyrch ‘Bang Out of Order’ gan yr RSPCA, mae gwleidyddion am weld mesurau pellach yn cael eu cyflwyno er lles diogelwch anifeiliaid anwes.

Tros y pum mlynedd diwethaf mae’r RSPCA wedi derbyn 1,621 o alwadau am dân gwyllt a’u heffeithiau ar anifeiliaid.

Ac yn ôl arolwg diweddar, mae 52% o oedolion yng Nghymru a Lloegr yn bwriadu cynnal arddangosfeydd preifat gartref, gyda ffrindiau a theulu, sy’n gynnydd o 29% ers 2019.

Gyda mwy a mwy o ddigwyddiadau cyhoeddus yn cael eu canslo a phryderon ynghylch digwyddiadau mawr, y disgwyl yw y bydd mwy o bobol yn penderfynu cynnal digwyddiadau preifat.

Mae Peter Fox, Aelod Ceidwadol o’r Senedd ym Mynwy, yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gydweithio ar dynhau mesurau i brynu tân gwyllt.

“Wrth gwrs, mae rhai o’r mesurau y gellid eu cymryd yn ymwneud â phwerau ym meddiant Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond byddwn yn gobeithio bod Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn cydweithio ar hyn,” meddai.

Rheolau

Ar hyn o bryd, mae angen bod dros 18 oed i brynu tân gwyllt gan werthwyr cofrestredig i’w defnyddio’n breifat rhwng:

  • Hydref 15 a Thachwedd 10;
  • Rhagfyr 26 a 31;
  • tri diwrnod cyn Diwali a’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd.

Ar adegau eraill, dim ond mewn siopau trwyddedig mae modd prynu tân gwyllt.

Cymru i arwain y ffordd

Mae Peredur Owen Griffiths, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, hefyd yn cefnogi galwadau’r RSPCA wedi i dystiolaeth gan yr elusen ddangos bod 62% o berchnogion cŵn a 54% o berchnogion cathod yn dweud bod eu hanifeiliaid anwes yn mynd yn ofidus yn ystod y tymor tân gwyllt.

“Mae’r Llywodraeth Dorïaidd wedi bod yn oddefol fel arfer, er gwaethaf tystiolaeth gref ar gyfer gweithredu yn dod gerbron y Pwyllgor Deisebau San Steffan,” meddai’r Aelod dros Ddwyrain De Cymru.

“Fodd bynnag, mae mwy y gallwn ei wneud yng Nghymru.

“A wnaiff y Llywodraeth hon ymgymryd ag argymhellion yr RSPCA ac annog manwerthwyr i stocio tân gwyllt tawelach neu dawel, gorfodi arddangosfeydd cyhoeddus i gael eu hysbysebu ymhell ymlaen llaw, fel y gall pobol gymryd camau i leihau’r risgiau iddynt hwy a’u hanifeiliaid, yn ogystal â lansio ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd am effaith andwyol tân gwyllt?”

Fe ddywedodd Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, ei bod yn bwysig ein bod yn “meddwl am ein hanifeiliaid anwes” gan gyfaddef fod gan y Llywodraeth “le i wella rywfaint.”

Ychwanegodd ei bod yn “falch iawn o weld nad yw rhai archfarchnadoedd yn gwerthu tân gwyllt eleni”.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi mynegi eu cefnogaeth, gyda Jane Dodds yn datgan ei chefnogaeth dros Twitter.

“Gall tân gwyllt fod yn frawychus i anifeiliaid anwes, da byw a bywyd gwyllt,” meddai. “Rydym yn galw am newid.

“I weld sut y gallwch chi helpu i gadw eich ci yn ddiogel, ewch i wefan yr RSPCA isod.”

Y siopau mawr

Fydd rhai archfarchnadoedd ddim yn eu gwerthu eleni yn dilyn pryderon gan elusennau anifeiliaid fel DogsTrust.

Dydy’r Co-op ddim wedi eu gwerthu ers pum mlynedd, ac mae Sainsbury’s hefyd wedi gwneud safiad yn eu herbyn ers 2019.

Ond bydd Tesco, Aldi a Morrisons yn parhau i’w gwerthu tra bydd Asda yn hefyd yn cynnig tân gwyllt sy’n creu llai o sŵn.