Mae data a gafodd ei gasglu gan heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn dangos bod y nifer uchaf erioed o achosion o dreisio wedi cael eu hadrodd wrthyn nhw yn y deuddeg mis hyd at fis Mehefin eleni.
Yn y flwyddyn honno, cafodd 61,158 o achosion eu hadrodd wrth yr heddlu, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Fodd bynnag, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi bod angen bod yn ofalus wrth ddehongli’r ystadegau, sy’n dangos bod cynnydd mawr mewn adroddiadau am achosion rhwng Ebrill a Mehefin eleni.
Maen nhw’n dweud y gallai’r cynnydd hwn fod yn seiliedig ar gynnydd yn nifer y dioddefwyr wnaeth adrodd am droseddau wrth i’r cyfnod clo lacio, cynnydd yn nifer y dioddefwyr, neu gynnydd ym mharodrwydd dioddefwyr i adrodd am ddigwyddiadau.
Mae data’r heddlu yn dangos bod nifer y troseddau rhyw (164,763) a gafodd eu hadrodd wrth yr heddlu yr ail uchaf erioed yn y deuddeg mis hyd at fis Mehefin.
Roedd hynny’n seiliedig ar y ffaith fod nifer uchel iawn o droseddau rhyw wedi’u nodi gan yr heddlu rhwng Ebrill a Mehefin, ac mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod yn rhaid bod yn ofalus wrth eu dehongli am yr un rhesymau.
Troseddau eraill
Mae Arolwg Trosedd Telephone ar gyfer Cymru a Lloegr (TCSEW) yn dangos bod cynnydd o 12% wedi bod mewn troseddau yn gyffredinol yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin eleni, o gymharu â’r flwyddyn cyn y pandemig hyd at Fehefin 2019.
Cynnydd o 43% mewn twyll a chamddefnyddio cyfrifiaduron oedd yn gyfrifol am y cynnydd cyffredinol, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Bu cynnydd mewn achosion o ‘dwyll prynu a gwerthu’ a ‘thwyll ffi ymlaen llawn’, ac mae’r cynnydd mewn achosion o gamddefnyddio cyfrifiaduron wedi’i achosi yn gyfan gwbl gan gynnydd mewn ‘cael mynediad heb ganiatâd at wybodaeth bersonol, gan gynnwys hacio’.
Ychydig o newid fu yn nifer yr achosion o drais yn ôl yr arolwg, ond bu gostyngiad o 27% yn nifer y dioddefwyr troseddau treisgar.
Gostyngiad yn nifer y troseddau treisgar lle’r oedd y troseddwr yn ddieithryn oedd yn gyfrifol am y gostyngiad hwnnw.
Bu gostyngiad o 8% yn nifer y troseddau’n ymwneud â chyllyll hefyd, meddai’r arolwg.
“Gofal” wrth ddehongli
Wrth ymateb i’r ystadegau troseddau chwarterol, dywed Nick Stripe o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod “patrymau troseddau yn y flwyddyn yn gorffen ym mis Mehefin 2021 wedi cael eu heffeithio gan bandemig y coronafeirws”.
“Fe wnaeth nifer o fathau o droseddau, fel dwyn, ostwng yn ystod y cyfnodau clo wrth i gyswllt cymdeithasol gael ei gyfyngu a phobol yn aros adre,” meddai.
“Ond fe wnaeth gostyngiad yn y troseddau hyn gael ei wrthwneud, a mwy, gan gynnydd mawr mewn twyll a throseddau’n ymwneud â chamddefnyddio cyfrifiaduron, gan arwain at gynnydd mewn troseddau yn gyffredinol dros y flwyddyn.
“Cyn y pandemig, roedd nifer y troseddau rhyw oedd yn cael eu cofnodi gan yr heddlu ymhell o dan yr amcangyfrif ar gyfer nifer y dioddefwyr gan yr arolwg trosedd, gyda llai nag un ymhob chwe dioddefwr treisio neu ymosod drwy dreiddiad yn dweud wrth yr heddlu am y drosedd.
“Rhaid bod yn ofalus wrth ddehongli ystadegau’r heddlu heddiw, sy’n dangos cynnydd mawr yn nifer y troseddau o dreisio a throseddau rhyw a gafodd eu hadrodd yn ystod y chwarter rhwng Ebrill a Mehefin diwethaf.
“Gallai’r cynnydd hwn fod yn sgil cynnydd mewn dioddefwyr yn adrodd troseddau wrth i gyfnodau clo lacio, cynnydd yn nifer y dioddefwyr, neu gynnydd ym mharodrwydd dioddefwyr i adrodd am ddigwyddiadau, o bosib o ganlyniad i achosion gafodd lawer o sylw ac ymgyrchoedd diweddar.”