Mae Owen Paterson, yr Aelod Seneddol a chyn-Weinidog Ceidwadol, wedi ymddiswyddo gan ddweud bod y diwrnodau diwethaf wedi bod yn rhai “annioddefol”.
Mae Aelod Seneddol Sir Amwythig wedi bod yn destun sylw’r wasg dros y 24 awr diwethaf yn dilyn pleidlais ddadleuol i beidio â’i wahardd o’r Senedd am dorri rheolau lobïo honedig.
Mewn datganiad, fe ddywedodd fod y “ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn hunllef annioddefol i fy nheulu a minnau”.
Ond mae’n mynnu ei fod yn gwbl ddieuog “o’r hyn y cefais fy nghyhuddo ohono ac fe weithredais bob amser er budd iechyd a diogelwch y cyhoedd”.
“Ni allaf glirio fy enw o dan y system bresennol,” meddai.
Mae hyn yn golygu y bydd yna is-etholiad yn ei etholaeth, sydd yn sedd ddiogel iawn i’r Blaid Geidwadol.
Marwolaeth ei wraig
Mae’r gwleidydd wedi dweud bod yr ymchwiliad yn ei erbyn wedi cyfrannu at ei wraig, Rose, yn lladd ei hun.
“Mae’r dyddiau diwethaf wedi bod yn annioddefol i ni [fel teulu],”meddai.
“Yn waeth na dim roeddwn yn gweld pobol, gan gynnwys aelodau seneddol, yn gwawdio yn gyhoeddus ac yn diystyru marwolaeth Rose gan fychanu ein poen.
“Felly, mae fy mhlant wedi gofyn imi adael gwleidyddiaeth yn gyfan gwbl, er fy mwyn i yn ogystal â nhw.
“Dydw i ddim am i enw da fy ngwraig ddod yn bêl-droed wleidyddol.”
“Yn anad dim, rwyf bob amser yn rhoi fy nheulu yn gyntaf.”
Cyd-destun
Fis diwethaf, fe ddyfarnodd Pwyllgor Safonau Trawsbleidiol y Senedd fod Owen Paterson wedi lobïo gweinidogion y llywodraeth ar gyfer dau gwmni – Randox a Lynn’s Country Foods – oedd wedi talu rhagor na £100,000 y flwyddyn iddo.
Roedd yn wynebu cael ei wahardd am 30 diwrnod ar ôl i bwyllgor safonau trawsbleidiol y Senedd ganfod ei fod wedi camddefnyddio ei swydd er budd dau gwmni yr oedd yn gweithio iddyn nhw.
Canlyniad y bleidlais oedd 250 i 232, mwyafrif o 18, i gymeradwyo’r gwelliant.
Ond dywedodd ei gyd-aelodau fod y system yn annheg gyda’r Aelod Ceidwadol, Andrea Leadsom yn cynnig gwelliant yn galw am adolygiad o’r achos.
Yn dilyn canlyniad y bleidlais, cafodd galwadau o “cywilydd” eu clywed o gyfeiriad meinciau’r wrthblaid.
Cyhuddodd Angela Rayner, dirprwy arweinydd Llafur, y Torïaid o fod yn “Bydredig i’r carn” gan ddisgrifio’r canlyniad fel “gwarth llwyr”.
Heddiw (dydd Iau, Tachwedd 4), yn dilyn beirniadaeth chwyrn gan y gwrthbleidiau a sylw’r wasg, fe benderfynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wneud tro pedol ar y bleidlais gan addo ailfeddwl ynghylch eu cynlluniau ar ganllawiau ymddygiad aelodau seneddol.
Ond ychydig oriau wedyn, fe benderfynodd y gŵr 65 oed sydd wedi cynrychioli Sir Amwythig ers 1997 ei fod yn ymddiswyddo.
Mae Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur wedi galw ar y Prif Weinidog Boris Johnson i ymddiheuro wedi iddo geisio cuddio “gweithredoedd llwgr ei ffrind”.
“Nid dyma’r tro cyntaf iddo wneud hyn ond rhaid iddo fod yr olaf. Ac mae’n rhaid i Boris Johnson egluro sut mae’n bwriadu trwsio’r niwed aruthrol y mae wedi’i wneud,” meddai.
“Mae hyn wedi bod yn 24 awr anghredadwy hyd yn oed yn ôl safonau anhrefnus y llywodraeth hon.”
Ychwanegodd Owen Paterson yn ei ddatganiad ei fod yn bwriadu neilltuo ei amser ei hun “i wasanaeth cyhoeddus ym mha ffyrdd bynnag y gallaf, ond yn enwedig ym myd atal hunanladdiad”.
Mae’n galw ar y cyfryngau i barchu preifatrwydd y teulu drwy’r cyfnod “anodd” hwn gan “adael i ni alaru fy Rose annwyl, y person gorau i mi ei chyfarfod erioed”.
Owen Paterson: Pleidlais i beidio ei wahardd am dorri rheolau lobïo honedig
Cyhuddo’r Ceidwadwyr o geisio “bwlio” comisiynydd o’i swydd