Mae elusen Mind yn nodi bod dau allan o bump o bobol yn teimlo nad oes cefnogaeth ddigonol ar gael i ddelio â phroblemau iechyd meddwl.

Fe gafodd arolwg ar y cyd â Co-op, Scottish Association for Mental Health ac Inspire ei gynnal, gyda 4,500 o bobol yn cael eu holi.

Mae’n debyg fod 43% o bobol yng Nghymru yn teimlo nad yw’r gefnogaeth na’r cyfarpar ar gael i ddelio â phroblemau bywyd, gyda 23% yn dweud bod eu hiechyd meddwl yn dioddef ar hyn o bryd.

Roedd yr ymchwil yn dangos bod cyfyngiadau’r pandemig wedi gadael eu hôl ar bobol hefyd, gyda bron i ddau draean o bobol (65%) yn dweud eu bod wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl.

Roedd dros chwarter (23%) yr ymatebwyr yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu hynysu oddi wrth eu cymuned oherwydd y pandemig hefyd.

Mae un sydd wedi bod yn dioddef â gorbryder yn teimlo bod y cymorth ar gael, ond fod angen hysbysu pobol ohono, a’i gwneud hi’n normal i siarad.

Dywedodd Lois Parri fod angen gwella gwasanaethau sydd ar gael i siaradwyr Cymraeg, i sicrhau nad ydyn nhw’n colli allan.

Effaith y pandemig

Mae Lois Parri, sy’n 22 oed ac yn dod o Ben Llŷn, wedi delio â gorbryder er pan oedd hi yn ei harddegau, ac mae hi wedi cael profiad o wasanaethau iechyd meddwl ei hun.

Mae hi bellach yn gwirfoddoli gyda llinell gymorth gorbryder No Panic, ac yn dweud bod y pandemig wedi effeithio ar lawer o bobol mewn amryw o ffyrdd.

“I lot o bobol, mae’r pandemig wedi bod yn wahanol iawn,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n meddwl i rai pobol sydd efo trafferthion iechyd meddwl yn barod, mae hynny wedi rhoi straen ychwanegol arnyn nhw, ac maen nhw wedi bod yn dioddef fwy fyth.

“Ar y llaw arall, fyddai yna rai ychydig bach mewn rhyw ffordd yn fwy gwydn, oherwydd eu bod nhw wedi delio efo straen a gorbryder ac ansicrwydd yn barod.

“Dydy lot o bobol efallai heb gael profiad o orbryder, straen hirdymor, iselder neu ynysu o’r blaen.

“Mae o wedi bod yn anodd iawn i bobol sydd heb lawer o brofiad o helynt iechyd meddwl achos mae hyn wedi codi lot o heriau dydyn nhw erioed wedi eu hwynebu o’r blaen.”

Gwasanaethau Cymraeg

Wrth gyfeirio at ei phrofiad hi ei hun wrth gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, mae hi’n tybio bod gwelliant wedi bod ers iddi orfod eu defnyddio.

Mae hi’n nodi’r rhwystredigaeth fod gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddiffygiol o’i gymharu â’r Saesneg.

“Dw i’n meddwl fod yna gynnydd wedi bod yn y gwasanaethau sydd ar gael,” meddai.

“Pan o’n i’n iau, ges i helynt gyda gorbryder a wnes i drio cael mynediad at CAMHS (Child and Adolescent Mental Health Services) efo’r Gwasanaeth Iechyd.

“Mi oedd yna ychydig o aros fel sydd yna efo pob gwasanaeth, a ges i wybod y byswn i’n gallu cael gafael ar rywun drwy gyfrwng y Gymraeg, ond y byddai’n cymryd lot hirach na siarad efo rhywun yn Saesneg.

“Mae hynny wedi bod yn achos lot o bobol hefyd.

“Dydw i ddim yn hollol siŵr beth ydy’r sefyllfa rŵan, ond fyswn i’n meddwl ei fod o’r un math o sefyllfa.”

 

Lois Parri

Codi ymwybyddiaeth

Wrth gyfeirio at y ffaith fod dau o bob pump o bobol yn teimlo nad oes cefnogaeth na datrysiadau iddyn nhw, gallai hynny gael ei newid pe bai pobol ond yn ymwybodol o’r hyn sydd ar gael, yn ôl Lois Parri.

Mae hi’n credu y dylai’r Llywodraeth dynnu llawer mwy o sylw at elusennau fel Mind a’r Samariaid, a gwasanaethau gwirfoddol eraill.

“Dw i’n meddwl fod yna welliant wedi bod yn y synnwyr fod yna fwy o ymwybyddiaeth wedi bod, a’n cael ei godi drwy’r byd i gyd,” meddai.

“Y broblem fwyaf ydi bod yna ddim gwybodaeth ar sut i gael mynediad at y cymorth sydd ar gael.

“Dw i’n gwirfoddoli efo llinell cymorth No Panic, sy’n rhoi cymorth efo problemau gorbryder yn bennaf, ond mae galwadau’n amrywio.

“Mae o’n wasanaeth sydd wir wedi helpu lot o bobol sy’n ffonio.

“Mae’n bechod bod hynny ddim yn cael ei annog mwy, achos fyddai rhai ddim yn gyfforddus yn siarad â doctor, ond fydden nhw’n fodlon ffonio llinell cymorth yn anhysbys.

“Beth ddylai’r Llywodraeth ei wneud ydi trio hybu a gwella mynediad at y cymorth, er mwyn dangos ei fod o’n normal i deimlo pethau a siarad.”

‘Tabŵ’

“Mae iechyd meddwl yn dal i fod yn tabŵ,” meddai wedyn.

“Er bod yna lot o waith caled wedi cael ei wneud i chwalu’r stigma’n ddiweddar, mae o dal yn beth tabŵ ac yn gwneud pobol yn anghyfforddus.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig i bobol gael cymorth yn anhysbys os ydyn nhw’n teimlo fel hynny.

“Mae rhai sy’n ffonio’r llinell gymorth yn hollol agored, ond mae rhai – efallai rhai sy’n dechrau ar eu taith o gael cymorth – ddim yn hollol barod i roi ei hunain allan yna.

“Felly mae o’n rhan bwysig o’r gwasanaeth.”