Mae aelod seneddol Llafur sydd wedi osgoi cyfnod o garchar ar ôl cyfaddef bygwth taflu asid yn wyneb dynes arall wedi cael ei gwahardd o’r blaid.
Cafodd Claudia Webbe, aelod seneddol Dwyrain Caerlŷr ers 2009, ddedfryd o ddeg wythnos o garchar wedi’i gohirio am ddwy flynedd, ynghyd â 200 awr o waith cymunedol.
Aeth gerbron ynadon Westminster i wynebu’r cyhuddiad o aflonyddu ar Michelle Merritt, ffrind i’w phartner Lester Thomas, sy’n dweud bod angen therapi ar Merritt yn dilyn y digwyddiad.
Roedd Webbe, sy’n 56 oed, wedi gwadu’r cyhuddiad gan ddweud mai hi oedd wedi dioddef o ganlyniad i gael ei sarhau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cafwyd hi’n euog fis diwethaf ar ôl i’r llys glywed ei bod hi wedi bygwth cyhoeddi lluniau noeth o Michelle Merritt, a’i bod hi wedi gwneud cyfres o alwadau ffôn bygythiol, er nad oedd y ddwy erioed wedi cyfarfod wyneb yn wyneb.
Dywedodd y prif ynad y byddai wedi cael ei charcharu oni bai am ei chymeriad clodwiw cyn yr achos hwn.
Mae Claudia Webbe yn aelod seneddol annibynnol ar ôl cael ei diarddel gan y Blaid Lafur, ac fe fydd hi’n wynebu deiseb i’w symud o’i swydd yn sgil y ddedfryd, sy’n golygu y gallai is-etholiad gael ei gynnal pe bai 10% o’i hetholwyr o blaid y ddeiseb.
Ond byddai angen aros tan ar ôl unrhyw apêl.
Cefndir
Clywodd y llys fod Claudia Webbe wedi gwneud cyfres o fygythiadau mewn galwadau ffôn rhwng Medi 2018 ac Ebrill y llynedd.
Yn ystod un o’r galwadau hynny, roedd Webbe wedi galw Michelle Merritt yn “slag”, ac wedi ei bygwth ag asid, gan ddweud y byddai’n anfon lluniau a fideos ohoni’n noeth at ei merched.
Fe wnaeth yr heddlu ei rhybuddio i beidio â chysylltu â Michelle Merritt, ond parhau wnaeth y galwadau.
Cafodd y bygythiadau eu recordio.
Ond roedd Webbe yn gwadu’r cyhuddiadau, gan ddweud ei bod hi wedi gofyn “yn gwrtais” i Michelle Merritt adael llonydd i Lester Thomas ac i beidio â thorri cyfyngiadau Covid wrth gyfarfod â fe.
Dywedodd Michelle Merritt o’r tu ôl i sgrîn yn y llys fod y galwadau’n “fygythiol”, a dywedodd iddi gael “sioc ac ofn mawr”, gan ddweud wrth yr heddlu am y bygythiadau asid.
‘Anghredadwy’
Er bod Jeremy Corbyn, John McDonnell a Diane Abbott ymhlith y rhai fu’n cyflwyno tystiolaeth o blaid Claudia Webbe, dywedodd y prif ynad fod ei stori’n “anghredadwy”.
Cafodd Webbe ei hethol yn aelod seneddol fis Rhagfyr 2019, gan olynu Keith Vaz, oedd wedi gadael San Steffan yn sgil sgandal.
Roedd hi’n ymgynghorydd i Faer Llundain, Ken Livingstone, yn gynghorydd yn Islington ac yn aelod o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol Llafur.
Dywed ei bod hi’n “siomedig iawn” yn dilyn dyfarniad y llys, ac mae’n dweud ei bod hi’n bwriadu apelio yn erbyn y ddedfryd.