Mae Llywodraeth Cymru am weld trafnidiaeth yn opsiwn haws i bobl, yn hytrach na gyrru, mewn ymdrech i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Yn ôl Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a Thrafnidiaeth “ar hyn o bryd mae gyrru yn llawer haws na thrafnidiaeth gyhoeddus ac mae angen troi hynny ar ei ben.”

“Mae angen gwneud yr opsiwn gorau i’r amgylchedd, yn ddewis haws, ac yn ddewis y bydd pobl yn ei wneud.”

Roedd y gweinidog yn westai ar raglen Jeremy Vine ar BBC Radio 2 ac yn trafod ffordd osgoi Llanbedr yng Ngwynedd.

Ddydd Llun (Tachwedd 1), fe gyhoeddodd gweinidogion na fyddai’r cynllun ffordd osgoi yng Ngwynedd yn parhau.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gohirio cynlluniau i adeiladu ffyrdd ledled Cymru wrth i adolygiad annibynnol gael ei gynnal am eu heffaith amgylcheddol.

Ychwanegodd Lee Waters: “rydym am daclo newid hinsawdd ond mae’n rhaid cofio bod 17% o allyriadau carbon yn deillio o drafnidiaeth.

“Ac mae Pwyllgor Newid Hinsawdd Prydain yn dweud os ydym am fod yn net sero yn genedlaethol erbyn 2050 mae angen lleihau ein defnydd o geir.”

Ardaloedd Gwledig ar eu colled?

Bu Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd sy’n cynrychioli Plaid Cymru, hefyd ar y rhaglen gan siarad o blaid creu’r ffordd osgoi.

Fe ddisgrifiodd Jeremy Vine yr agweddau “tra gwahanol” gyda “Phlaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru, ill ddwy am weld y gorau i’r blaned, ond mae un am weld ffordd osgoi a’r llall ddim.”

“Pe bai chi’n byw yn Llanbedr ac yn gweld y ceir yn pasio trwy’r pentref yn ystod misoedd yr haf yn poeri eu llygredd, wel, byddech yn gweld bod wir angen ffordd osgoi arnom ni,” meddai Dyfrig Siencyn.

Fe gyfeiriodd y cynghorydd at y diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal ac at dwristiaid sy’n ymweld â’r ardaloedd ar eu gwyliau yn ystod gwyliau’r haf a’r gaeaf.

Dywedodd hefyd bod y ffordd osgoi hefyd yn fodd o wella trafnidiaeth i Faes Awyr Llanbedr sydd, yn ôl y cynghorydd, â “photensial cyflogaeth enfawr.”

Ac fe honnodd fod ardaloedd dinesig yn cael budd o gynlluniau amgylcheddol ar draul cymunedau cefn gwlad.

“Mae’n iawn i gael datblygiad economaidd mewn ardaloedd dinesig ond nid gwledig,” meddai.

Ond mynnodd Lee Waters: “Dydyn ni ddim yn pigo ar gefn gwlad fan hyn, rydym wedi cael llawer o feirniadaeth am ganslo cynlluniau i ddatblygu’r M4 yng Nghasnewydd hefyd – sydd sicr ddim yn ardal wledig.”

Fe gyfeiriodd y gweinidog at yr Almaen a’r Swistir ble mae’r nifer o bobl sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus llawer yn uwch.

Y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â ffordd osgoi Llanbedr yn “cosbi cymuned dlawd, wledig”

“Mae’n berffaith amlwg nad oes gan y Llywodraeth yma unrhyw ddealltwriaeth o fyw yn y wlad. Dim arlliw o grebwyll,” meddai Mabon ap Gwynfor

Canslo cynllun ffordd osgoi Llanbedr ddim yn “pigo ar” ardaloedd gwledig

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr wythnos hon na fyddai’r cynllun ffordd osgoi yng Ngwynedd yn parhau