Dyma ddiweddariad dydd Iau (4 Tachwedd) o gyfraddau achosion Covid-19 ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae’r ffigurau, ar gyfer y saith diwrnod hyd at 31 Hydref, yn seiliedig ar nifer y bobl sydd wedi profi’n bositif am Covid-19 naill ai mewn prawf llif ochrol cyflym neu mewn profion labordai.

Mynegir y gyfradd fel nifer yr achosion newydd fesul 100,000 o bobl.

Mae data ar gyfer y pedwar diwrnod diwethaf (Tachwedd 1-4) wedi’i eithrio gan ei fod yn anghyflawn ac nid yw’n adlewyrchu gwir nifer yr achosion.

Ymhlith yr uchaf yn y Deyrnas Unedig

Mae cyfraddau rhai o ardaloedd awdurdodau lleol Cymru yn parhau i fod ymhlith yr uchaf yn y Deyrnas Unedig.

Bro Morgannwg sydd â’r gyfradd uchaf yng Nghymru, a’r gyfradd uchaf ond un yn y Deyrnas Unedig – i lawr o 821.2 i 765.0, gyda 1,035 o achosion newydd.

Torfaen sydd â’r gyfradd uchaf ond un yng Nghymru, a’r drydedd uchaf yn y Deyrnas Unedig – i lawr o 920.6 i 760.3, gyda 721 o achosion newydd.

Y rhestr yn llawn

Cyfrifwyd y rhestr gan ddefnyddio data a gyhoeddwyd ar ddangosfwrdd coronafeirws y Llywodraeth ar 4 Tachwedd.

Mae’n darllen, o’r chwith i’r dde: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 31 Hydref; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at 31 Hydref; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 24 Hydref; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at 24 Hydref.

Bro Morgannwg, 765.0, (1035), 821.2, (1111)

Torfaen, 760.3, (721), 920.6, (873)

Caerffili, 722.5, (1313), 867.8, (1577)

Sir Benfro, 662.7, (840), 815.0, (1033)

Blaenau Gwent, 632.7, (443), 931.2, (652)

Castell-nedd Port Talbot, 613.6, (886), 780.5, (1127)

Caerdydd, 611.9, (2259), 705.8, (2606)

Casnewydd, 603.4, (944), 802.2, (1255)

Sir Fynwy, 570.6, (543), 694.6, (661)

Pen-y-bont ar Ogwr, 493.4, (728), 584.9, (863)

Gwynedd, 492.1, (616), 463.4, (580)

Sir Gaerfyrddin, 488.8, (929), 593.5, (1128)

Abertawe, 484.7, (1195), 628.6, (1550)

Rhondda Cynon Taf, 476.7, (1153), 646.6, (1564)

Powys, 462.3, (615), 547.2, (728)

Merthyr Tudful, 458.4, (277), 663.6, (401)

Sir Ddinbych, 458.3, (443), 532.8, (515)

Sir y Fflint, 426.5, (669), 389.6, (611)

Wrecsam, 425.6, (579), 366.0, (498)

Ceredigion, 418.4, (305), 655.7, (478)

Ynys Môn, 401.8, (283), 377.6, (266)

Conwy, 372.3, (440), 410.4, (485)