Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am ganslo’r drwydded lo ar gyfer glofa Aberpergwm, ger Glyn-nedd.

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters wedi dweud ei fod yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i atal “40 miliwn tunnell o lo” rhag cael ei dynnu “o bridd Cymru” dros y 18 mlynedd nesaf.

Mae gan weinidogion Cymru “bolisi clir o roi’r gorau i ddefnyddio tanwydd ffosil”, meddai.

Ond mae gweithredwr y pwll yn dweud ei fod yn cyflenwi diwydiannau arbenigol fel hidlo dŵr a chynhyrchu dur.

Mae’n nhw’n dweud bod y pwll yn darparu 160 o swyddi â chyflogau da yn ardal Cwm Nedd, ynghyd â 16 o brentisiaethau.

Glo yw un o danwydd ffosil mwyaf llygredig y byd.

Diwedd oes glo

Mae mwy na deugain o wledydd ledled y byd wedi cytuno i symud i ffwrdd o ddefnyddio glo yn uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 yn Glasgow yr wythnos hon.

Eisoes mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig darged i waredu defnydd glo ar gyfer cynhyrchu trydan erbyn Hydref 2024.

Pwll glo Aberpergwm yw’r diwethaf o byllau glo sy’n cynhyrchu glo anthracite yng Ngorllewin Ewrop ac mae’n cyflenwi gwaith dur Tata gerllaw ym Mhort Talbot.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mr Waters: “Oni bai bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cytuno i’n cais i ganslo trwydded a roddwyd yn 1996 yn Aberpergwm, bydd tua 40 miliwn tunnell o lo yn cael ei dynnu o’r pwll hwn erbyn 2039 – can miliwn tunnell o garbon deuocsid.

“Rydym am gadw’r glo hwn yn y ddaear, ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn bygwth eistedd a gwylio’r glo hwn yn cael ei echdynnu…”

Dywedodd Lee Waters fod Gweinidogion Cymru wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol y Deyrnas Unedig dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Kwasi Kwarteng, yn gofyn iddo ymyrryd er mwyn atal “y glo rhag cael ei echdynnu o bridd Cymru”.

“Dydyn ni ddim eisiau iddo ddigwydd a’r unig reswm y gallai ddigwydd yw oherwydd diffyg gweithredu [Llywodraeth y DU] a’u polisïau,” meddai Mr Waters.

Gwrthododd Energybuild Ltd, sy’n rhedeg y pwll glo, yr honiad y byddai parhau i gloddio yn arwain at gynhyrchu can miliwn tunnell o garbon deuocsid.