I nodi COP26, mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhyddhau delweddau’n dangos sut fyddai rhai o’r tirnodau gafodd eu hariannu ganddyn nhw’n edrych os na fydd gweithredu ar newid hinsawdd.
Mae’r delweddau, sydd wedi’u gwneud gan yr ymgyrchydd amgylcheddol Daisy Lowe, yn cynnwys llun o sut y byddai Canolfan y Mileniwm yn edrych petai lefelau’r môr yn codi 1.5 gradd.
Yn y ddelwedd, mae’r tu allan i’r adeilad o dan ddŵr.
Bwriad y gyfres, sy’n cynnwys lluniau o Theatr Shakespeare’s Globe, Sarn y Cawr yng Ngogledd Iwerddon, a’r Falkirk Wheel yn yr Alban hefyd, yw annog y cyhoedd i weithredu nawr yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Ymchwil
Mae’r delweddau yn nodi canfyddiadau ymchwil newydd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sy’n datgelu’r hyn mae’r Cymry fwyaf pryderus yn ei gylch wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Pan ofynnwyd sut y byddai pobol yn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd petaen nhw’n arweinwyr byd-eang, dywedodd y mwyafrif o oedolion Cymru y bydden nhw’n lleihau plastigau un-defnydd (63%).
Roedd cefnogi economi gylchol yn dilyn hynny.
Ychydig dros chwarter ddywedodd y bydden nhw’n gostwng nifer yr hediadau awyren y gall pobol eu cymryd fesul blwyddyn, tra y byddai 24% yn gostwng nifer y ceir disel neu betrol sy’n cael eu gwerthu.
Dangosodd yr ymchwil bod bron i hanner oedolion Cymru (43%) yn cytuno y bydd COP26 yn eu cymell i weithredu mwy i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Fodd bynnag, dangosodd ymchwil blaenorol gan y Loteri fod 73% o bobol Cymru’n cyfaddef nad ydyn nhw’n gwneud digon i achub y blaned.
“Busnes i bawb”
Dywedodd yr ymgyrchydd Daisy Lowe fod yr “argyfwng hinsawdd yn fusnes i bawb, ac mae gennym oll gyfrifoldeb i ddiogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”.
“Gobeithio y bydd y delweddau hyn yn dal dychymyg pobol er mwyn iddynt weithredu fel y gallwn oll weld sut y gallai’r canlyniadau edrych – ac mae’n eithaf dychrynllyd,” meddai Daisy Lowe.
“Nid yw’r newyddion, diolch byth, yn ddrwg i gyd a gallwch wneud gwahaniaeth mawr.
“Os ydych wedi bod eisiau gwneud gwahaniaeth erioed yn eich cymuned leol, beth am edrych ar yr arian sydd ar gael oddi wrth y Loteri Genedlaethol?”
“Gweithio gyda’n gilydd”
Dros y ddegawd ddiwethaf, mae £2.2 biliwn o arian y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi achosion da amgylcheddol.
“Tra bo’r byd yn canolbwyntio ar COP26, rhaid i ni oll ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud, fel sefydliadau ac fel unigolion, i arafu cyfradd newid hinsawdd,” meddai Ros Kerslake CBE, Prif Weithredwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chadeirydd Fforwm y Loteri Genedlaethol.
“Rydym yn gofyn fod prosiectau a ariennir trwy’r Loteri Genedlaethol oll yn chwarae eu rhan, boed yn newidiadau bychain, megis cyflwyno biniau ailgylchu cymunedol, neu’n brosiectau amgylcheddol ar raddfa fawr sy’n adfer mawndiroedd gwerthfawr.
“Ar draws y wlad, rydym yn gweithio gyda’n gilydd gyda’r achosion da a gefnogwn i arwain, ysbrydoli a chodi ymwybyddiaeth am sut a pham fod angen i ni newid ein hymddygiadau er mwyn diogelu dyfodol ein planed.”