Mae nifer y bobol sy’n gweithio i blatfformau’r economi gig wedi treblu, bron, yng Nghymru a Lloegr dros y bum mlynedd ddiwethaf, yn ôl ymchwil newydd gan undeb y TUC.

Dangosa’r ymchwil bod bron i 14.7% o oedolion a gafodd eu holi yn gweithio drwy blatfformau’r economi gig o leiaf unwaith yr wythnos, o gymharu â 5.8% yn 2016.

Cyfeiria’r term “gwaith platfform” at ystod eang o swyddi’r economi gig sy’n cael eu darganfod ar “blatfform”, megis gwefan neu ap – fel Uber, Handy, Deliveroo, Gorillas neu Upwork.

Mae’r tasgau’n cynnwys gyrru tacsis, danfon nwyddau, gwaith swyddfa, dylunio, datblygu meddalwedd, a glanhau.

Mae 4.4 miliwn o bobol yng Nghymru a Lloegr yn gweithio dros dro, yn y tymor byr, neu fel contractwyr annibynnol i gyflogwyr o leiaf unwaith yr wythnos.

Ynghyd â hynny, mae bron i chwarter y gweithwyr a gafodd eu holi drwy arolwg Prifysgol Swydd Hertford wedi gwneud gwaith o’r fath ar ryw bwynt.

Amodau gwaith gwaeth

Roedd y mwyafrif llethol yn defnyddio gwaith platfform er mwyn ychwanegu at incwm o swyddi eraill, gan ddangos bod gweithwyr gig yn gynyddol debygol o ffurfio bywoliaeth drwy nifer o wahanol swyddi.

Yn ôl y TUC, bydd y twf yn yr economi gig yn arwain at fwy o weithwyr yn derbyn tâl isel ac yn dioddef amodau gwaith gwael.

Dangosa ymchwil diweddar gan Brifysgol Rhydychen, fod nifer o enwau cyfarwydd yn yr economi gig, megis cwmni danfon Amazon, yn methu â chwrdd â’r gofynion sylfaenol ar gyfer tâl ac amodau gweithwyr.

Daeth ymchwil diweddar i’r casgliad bod gweithwyr du ac ethnig lleiafrifol yn cael eu gorgynrychioli yn y sector hwn hefyd, o gymharu â gweithwyr gwyn.

Yn ôl y TUC, mae gwella hawliau gweithwyr gig yn hanfodol i fynd i’r afael â hiliaeth systemig sy’n dal gweithwyr du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol yn ôl.

“Trin yn deg”

Mae’r TUC yn galw ar i weithwyr gael mwy o gefnogaeth undebau llafur a mwy o hawliau, gan gynnwys drwy wahardd cytundebau sero awr, a rhoi hawl i undebau fynd mewn i weithleoedd i siarad gyda gweithwyr am y math o aelodaeth sydd ar gael iddyn nhw.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj, fod “pawb yn haeddu cael eu trin yn deg yn y gwaith”.

“Ond mae degau ar filoedd o bobol sy’n gweithio yng Nghymru yn gorfod dibynnu ar waith economi gig ansefydlog er mwyn cael deupen llinyn ynghyd – yn aml ar ben swyddi eraill,” meddai.

“Mae platfformau’r economi gig yn defnyddio technolegau newydd i ecsbloetio gweithwyr, fel sydd wedi digwydd ers blynyddoedd maith.

“Yn rhy aml, dydi hawliau ddim yn cael eu rhoi i weithwyr gig ac maen nhw’n cael eu trin fel llafur y gellir cael gwared arno.

“Ni fydd undebau yn gorffwys nes y bydd gwelliannau i gyflog ac amodau gweithwyr gig.

“Mae’n amser am newid. Yng Nghymru rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wella safonau ar gyfer gweithwyr mewn sectorau megis gofal cymdeithasol.

“Ond mae’n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig stopio maddau i blatfformau’r economi gig.

“Mae hynny’n golygu rhoi mynediad i bob gweithiwr gig at undebau llafur, gwahardd cytundebau sero awr, a hybu hawliau gweithwyr.”