Mae disgwyl i filoedd o bobl ifanc orymdeithio drwy strydoedd Glasgow heddiw (5 Tachwedd) i fynnu bod arweinwyr a gwleidyddion yn cymryd camau yn erbyn newid hinsawdd wrth i drafodaethau Cop26 barhau.
Fe fydd yr ymgyrchwyr ifanc Greta Thunberg a Vanessa Nakate yn ogystal ag undebwyr llafur lleol yn annerch y dorf ar ddiwedd yr orymdaith drwy’r ddinas, lle mae’r uwchgynhadledd ar newid hinsawdd yn cael ei gynnal.
Daw’r orymdaith wrth i drafodaethau Cop26 roi sylw i ddigwyddiadau sy’n rhoi llais i bobl ifanc ac addysg am newid hinsawdd.
Ond mae Greta Thunberg wedi bod yn feirniadol o’r uwchgynhadledd, gan honni ei fod yn siop siarad ac yn “ddathliad o fusnes yn ôl yr arfer a blah blah blah”.
Daw’r brotest heddiw cyn i orymdeithiau gael eu cynnal ddydd Sadwrn lle mae disgwyl degau ar filoedd o bobl yn Glasgow, gyda gorymdeithiau eraill yn Llundain a dinasoedd ar draws y Deyrnas Unedig a’r byd.
Ar ddiwedd wythnos gyntaf yr uwchgynhadledd, mae’r gwledydd wedi bod dan bwysau i gynyddu eu huchelgais i dorri nwyon tŷ gwydr sy’n achosi newid hinsawdd a sicrhau cyllid i wledydd tlotach er mwyn iddyn nhw fynd i’r afael a’r argyfwng.