Mae Boris Johnson yn cyfri’r gost yn sgil y ffrae ynghylch Owen Paterson, yr Aelod Seneddol Ceidwadol a ymddiswyddodd ddoe (4 Tachwedd).

Dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, mae Aelod Seneddol Gogledd Sir Amwythig wedi bod yn destun sylw’r wasg yn dilyn pleidlais ddadleuol i beidio â’i wahardd o’r Senedd am dorri rheolau lobïo honedig.

Mae’r Prif Weinidog nawr yn wynebu’r posibilrwydd o gynnal is-etholiad yng Ngogledd Swydd Amwythig, ynghanol honiadau o llygredd.

Roedd gan Owen Paterson fwyafrif cyfforddus o bron i 23,000 pleidlais yn ei etholaeth, ac mae amgylchiadau’r is-etholiad wedi arwain at honiadau y gallai’r gwrthbleidiau uno tu ôl i un ymgeisydd gwrth-lygredd, er bod ffynhonnell o’r Blaid Lafur wedi dweud nad oes unrhyw drafodaethau “swyddogol” wedi’u cynnal.

Fe wnaeth Owen Paterson ymddiswyddo fel Aelod Seneddol yn hytrach na wynebu’r posibilrwydd o gael ei atal o Dŷ’r Cyffredin am 30 diwrnod am dorri rheolau lobïo.

Fis diwethaf, fe ddyfarnodd Pwyllgor Safonau Trawsbleidiol y Senedd fod Owen Paterson wedi lobïo gweinidogion y llywodraeth ar ran dau gwmni – Randox a Lynn’s Country Foods – oedd wedi talu rhagor na £100,000 y flwyddyn iddo fel ymgynghorydd.

Goblygiadau

Ni fydd y mater yn diflannu, ac mae disgwyl y bydd Aelodau Seneddol yn cynnal trafodaeth frys ddydd Llun er mwyn trafod goblygiadau’r wythnos hon yn Nhŷ’r Cyffredin.

Cyhoeddodd Owen Paterson y byddai’n ymddiswyddo wedi i Boris Johnson orfod anghofio am gynllun i atal yr AS rhag cael ei wahardd ar unwaith, drwy lansio adolygiad i’r holl system ddisgyblu.

Cafodd y cynllun dadleuol gefnogaeth bron i 250 o Aelodau Seneddol Torïaidd ddydd Mercher, er bod yna wrthwynebiad sylweddol. Erbyn bore ddoe, bu’n rhaid i’r Llywodraeth wneud tro pedol, gan feio diffyg cefnogaeth drawsbleidiol.

Mae’r digwyddiadau wedi arwain at rai Torïaid yn beio’r Prif Chwip Mark Spencer, ond mae Downing Street wedi mynnu bod gan Boris Johnson hyder ynddo a’r “gwaith anhygoel” mae’n ei wneud.

Roedd y cyn-Brif Chwip, Mark Harper, yn un o’r 13 Aelod Seneddol Torïaidd oedd wedi pleidleisio yn erbyn y cynllun, ac roedd yn ymddangos ei fod yn beio Boris Johnson.

“Ni ddylai fy nghydweithwyr fod wedi derbyn cyfarwyddyd, o’r top, i bleidleisio dros hyn,” meddai.

Sylwadau Kwasi Kwarteng

Cyn i’r Llywodraeth wneud tro pedol, a chyn i Owen Paterson ymddiswyddo, roedd Ysgrifennydd Busnes San Steffan, Kwasi Kwarteng, wedi awgrymu bod canlyniad y bleidlais yn galw am ddiwygio proses safonau Tŷ’r Cyffredin yn codi cwestiynau am safle Kathryn Stone fel y Comisiynydd Seneddol dros Safonau.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n anodd gweld pa ddyfodol sydd gan y comisiynydd, o ystyried y ffaith ein bod ni’n adolygu’r broses, a’n bod ni’n trio diwygio’r holl broses, ond mae hi fyny i’r comisiynydd benderfynu ar ei safle,” meddai wrth Sky News.

Mae dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, Angela Rayner, wedi mynnu bod ymchwiliad yn cael ei lansio i weld a oedd y sylwadau hynny’n mynd yn groes i’r Cod Gweinidogol sy’n galw am “ystyriaeth a pharch” a pherthnasau gweithiol “addas” gyda staff seneddol.

Mewn llythyr at y cynghorydd annibynnol ar fuddion gweinidogion, yr Arglwydd Geidt, dywedodd Angela Rayner: “Mae’r ffaith i’r Ysgrifennydd Busnes ddefnyddio’r broses gwbl lygredig hon i fwlio’r Comisiynydd Seneddol annibynnol yn ffiaidd.”

Owen Paterson wedi ymddiswyddo yn dilyn ffrae am safonau ymddygiad Aelodau Seneddol

Fe ddywedodd fod y diwrnodau diwethaf wedi bod yn rhai “annioddefol”