Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi sicrhau tua £3 miliwn o gyllid i’w fuddsoddi mewn busnesau a chymunedau yn ogystal â datblygu sgiliau pobl leol.
Daw hyn yn dilyn llwyddiant 12 allan o 13 cais gan y cyngor i Gronfa Adfywio Gymunedol Llywodraeth y DU, sy’n golygu hwb o £2.94 miliwn i’r economi leol.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet: “Mae hwn yn gyhoeddiad mawr arall o ran cyllid i Sir Gaerfyrddin ac yn newyddion gwych i 12 prosiect gwahanol a fydd yn canolbwyntio ar gefnogi pobl a chymunedau i ffynnu.”
Y nod yw ceisio adfywio canol trefi, buddsoddi a rhoi hwb ariannol i bobl reol lansio busnesau newydd ynghyd â helpu’r hunangyflogedig i farchnata a thyfu eu busnesau.
“Annog y defnydd o’r Gymraeg mewn busnes”
Mae’r arian hefyd am gael ei ddefnyddio i “wella hunaniaeth ddiwylliannol y sir” a hynny drwy “ddigideiddio ei hanes ac annog y defnydd o’r Gymraeg mewn busnes”.
Bydd y Cyngor Sir yn arwain ar rai prosiectau a bydd eraill yn cael eu gweithredu gan amrywiaeth o bartneriaid yn y sector cyhoeddus, elusennau a sefydliadau lleol.
Bydd cynllun ‘Cefnogi’r Gymraeg mewn Busnes a Chymunedau’ yn brosiect peilot sy’n darparu gweithgareddau allweddol i annog busnesau a sefydliadau cymunedol i ddefnyddio’r Gymraeg.
Ychwanegodd Emlyn Dole ei fod yn “newyddion gwych” sy’n adeiladu ar waith y cyngor i ddod â buddsoddiad sylweddol i’r sir.
“Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddwyd ein llwyddiant o ran dod â £36miliwn i Sir Gaerfyrddin o Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU. Rydym bellach wedi sicrhau £2.9miliwn pellach o Gronfa Adfywio Gymunedol y Llywodraeth,” meddai.
Y prosiectau
- Banc Sgiliau Busnes Sir Gâr (a ddarperir gan Gyngor Sir Caerfyrddin)
- Cynllun Peilot Adfer a Thwf Trefi Sir Gaerfyrddin (a ddarperir gan Gyngor Sir Caerfyrddin)
- Hen Drefi Sir Gaerfyrddin – Eu Gorffennol, Eu Presennol a’u Potensial (gan Gyngor Sir Caerfyrddin)
- Gwella ymdeimlad o le a chefnogi adfywio cynaliadwy yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Chastellnewydd Emlyn.
- Cloddio o dan yr Arwyneb – Archifau, Archaeoleg a Mynediad yn Sir Gaerfyrddin (gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
- Dreigiau CYCA – Cyfle i Ffynnu (gan CYCA – Cysylltu Ieuenctid, Plant ac Oedolion)
- Menter Sir Gaerfyrddin (gan Fusnes mewn Ffocws)
- Prosiect Gwasanaeth Llysgennad a Gwasanaeth Cyflenwi Canol Tref Llanelli (gan AGB Llanelli mewn partneriaeth â Chyngor Tref Llanelli a Chyngor Sir Caerfyrddin)
- Ymateb Cyflym i Brinder Sgiliau (gan Goleg Sir Gâr)
- Adfywio Llanelli (gan Gyngor Sir Caerfyrddin)
- Adfywio Rhydaman (gan Gyngor Sir Caerfyrddin)
- Cefnogi’r Gymraeg mewn Busnes a Chymunedau (gan Gyngor Sir Caerfyrddin)
- Y Bywyd Rydych chi ei Eisiau (gan Threshold DAS)