Mae Llywodraeth Prydain wedi cyflwyno cais i droi hen orsaf lorïau yng Nghaergybi yn safle tollau Brexit.

Oherwydd bod Prydain wedi gadael marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd, mae angen cyfleuster sy’n gwirio dogfennau a nwyddau sy’n croesi’r ffin.

Mae adran Gyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC) yn bwriadu defnyddio adeiladau parod er mwyn creu’r safleoedd, a fydd yn cynnwys llefydd i lorïau barcio a chyfleusterau i staff hefyd.

Roedden nhw wedi archwilio sawl lleoliad, ond fe gafodd ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf fod uned Roadking ym Mharc Cybi wedi cael ei brynu gan HMRC.

390 o swyddi adeiladu

Cafodd safle Roadking ei agor yn 2015, yn dilyn pryderon fod dim cyfleuster addas i lorïau stopio ar Ynys Môn, ac mae’n darparu llefydd bwyd, cysgu ac ymolchi i yrwyr ar gyrion Caergybi.

Er bod 24 o swyddi yn cael eu colli o’r cyfleuster hwnnw, mae disgwyl y bydd 390 o swyddi yn cael eu creu yn ystod y cyfnod adeiladu, a 175 o swyddi parhaol maes o law.

Mae’r cais yn nodi bydd y “swyddi sy’n cael eu creu yn agored i bawb,” ond fod “HMRC am geisio annog swyddi i bobol leol.”

Roedden nhw’n dweud ei bod hi’n rhesymol i ddisgwyl y bydd rhai swyddi’n gorfod cael eu rhoi i bobol o bell.

Cynlluniau

Mae’r cynllun gan y Llywodraeth am weld uned Roadking yn cael ei droi yn safle tollau 84,000 metr sgwâr.

Bydd yr adeilad presennol yn cael ei droi’n swyddfa, gydag estyniad a fydd yn cynnwys mwy o swyddfeydd a safle lles staff.

Cynlluniau’r safle tollau

Bydd y cyfleuster yn gweithredu’n llawn amser, a bydd disgwyl iddo brosesu hyd at 350 o lorïau mewn cyfnod o 24 awr.

Fe gafodd eu cais ar gyfer safle tollau ar faes Sioe Môn ei wrthod gan y cyngor sir lleol y llynedd, yn sgil pryderon y byddai lorïau’n gorfod gyrru ar ffyrdd oddi ar yr A55.

Bydd cais cynnar yn cael ei ystyried gan Gyngor Ynys Môn cyn i gais llawn gael ei gyflwyno.

Prinder gyrwyr lorïau yn “effeithio ar fusnesau ledled Cymru” – a’r Senedd am ymchwilio

Sian Williams

“Rwy’n gwybod o brofiad blaenorol y rhwystredigaeth a achosir gan ddiffyg cyfleusterau parcio lorïau yng Nghaergybi”