Efallai bod angen edrych ar beth arall sydd ar gael i blant ei wneud yng Nghriccieth, meddai cynghorydd lleol, yn dilyn helbul ar draeth y dref.

Gwnaeth Cadeirydd y Cyngor Tref, Sian Williams, y sylwadau ar ôl i blant mor ifanc â deuddeg oed gael eu dal yn yfed mewn parti ar lan môr Criccieth y penwythnos diwethaf.

Dywedodd wrth BBC Radio Wales Breakfast fod enw da Criccieth wedi cael ei ddifetha yn sgil y digwyddiad.

Cafodd rhwng 150 a 200 o bobol eu dal yn yfed yn y dref, gyda phlant wedi dod yno o bob cwr o Wynedd a Môn.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ysgrifennu at ysgolion yn eu rhybuddio nhw bod yna barti arall wedi’i drefnu at heno (5 Tachwedd).

“Sioc”

Dywedodd Sian Williams wrth y BBC fod yr helbul yn “sioc gan nad oes neb eisiau gweld hynny yn digwydd mewn unrhyw dref”.

“Dydi hi ddim yn neis gweld rhywbeth fel hynny yn digwydd yng Nghriccieth,” meddai.

“Mae ein cyngor yn gweithio’n galed iawn gyda grwpiau lleol i gyflwyno tref sydd bob tro’n lân ac yn [lle] hyfryd i fyw a dod ar wyliau.

“Ond mae’n siomedig pan rydych chi’n clywed am ymddygiad fel hyn. Mae’n eithaf trist.

“Allai ddim cael fy mhen rownd y ffaith bod rhywun deuddeg oed allan yn y sefyllfa honno. Maen nhw dal yn blant yn yr oed hwnnw, felly mae’n peri pryder.

“Cyfran fach” o’r alcohol a gafodd ei gymryd gan yr heddlu. Llun gan Heddlu Gogledd Cymru

“Pan mae gennych chi’r nifer hynny o bobol ifanc efo’i gilydd, dydi hi ddim yn cymryd llawer i rywbeth fynd o’i le.

“Efallai bod angen i ni edrych ar beth arall sydd ar gael i bobol ifanc ei wneud yng Nghriccieth,” meddai, gan ychwanegu ei bod hi’n gobeithio y gall yr heddlu, ysgolion a rhieni gydweithio er mwyn sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto.

Cafodd bachgen 16 oed o Ynys Môn ei hebrwng i’r ysbyty gan ei fod wedi meddwi’n rhacs, meddai Heddlu Gogledd Cymru.

Yn y llythyr gan yr heddlu at ysgolion lleol, maen nhw’n rhybuddio am y parti arall sydd wedi’i drefnu at heno, ac yn dweud eu bod nhw am “geisio datrys y broblem cyn iddo ddechrau er mwyn trio diogelu’r plant a phobol yr ardal”.