Mae o leiaf chwech o bobol wedi marw mewn llifogydd difrifol yn Indonesia, ac mae tri arall ar goll wedi’r glaw trwm.

Dywedodd yr Asiantaeth Lliniaru Trychinebau Genedlaethol bod yr afonydd ar lethrau Mynydd Arjuno ar brif ynys y wlad, Java, wedi gorlifo ddoe (4 Tachwedd), a dŵr mwdlyd wedi achosi llifogydd yn Kota Bagu, dinas yn nhalaith Dwyrain Java.

Cafodd pymtheg o bobol eu cipio ymaith yn y llif, meddai’r asiantaeth, a chafodd chwech ohonyn nhw eu hachub wedyn.

Yn ôl pennaeth yr asiantaeth, Ganip Warsito, mae disgwyl i law trwm barhau i ddisgyn nes mis Chwefror, yn rhannol oherwydd patrwm tywydd La Niña, sef math o batrwm tywydd cymhleth sy’n digwydd bob ychydig flynyddoedd.

Cafodd un corff ei ddarganfod yn hwyr neithiwr, a chafodd pum corff arall eu darganfod heddiw (5 Tachwedd). Mae ymdrechion yn parhau i drio dod o hyd i’r tri arall sydd ar goll.

Mwd a llanast

Amharwyd ar yr ymdrechion i gynnig cymorth i’r ardal gan fod y ffyrdd wedi’u gorchuddio â mwd a llanast, ac mae lluniau a fideos gan yr Asiantaeth yn dangos pont wedi’i dinistrio, a thai a cheir wedi’u gorchuddio mewn mwd trwchus.

Mae’r awdurdodau wedi dechrau symud pobol o’r ardaloedd sydd wedi’u heffeithio i lety sy’n berchen i’r llywodraeth, meddai llefarydd.

Roedd adroddiadau am lifogydd difrifol mewn rhannau eraill o’r wlad hefyd.

Mae glaw tymhorol yn achosi llifogydd difrifol a thirlithriadau yn Indonesia yn aml. Digwyddodd y llifogydd mawr diwethaf ym mis Ebrill, pan wnaeth Cylchwynt Trofannol Seroja achosi tirlithriadau a llifogydd a wnaeth ladd o leiaf 183 o bobol ar ochr Indonesia o Ynys Timor.

Mae Indonesia yn rhannu’r ynys gyda Dwyrain Timor, a chafodd 42 person arall eu lladd ar ochr Dwyrain Timor o’r ynys.