Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen efo ffordd osgoi gwerth miliynau o bunnau yn Llanbedr ger Harlech wedi cael ei feirniadu’n chwyrn.
Mae’r penderfyniad yn rhan o adolygiad Llywodraeth Cymru o gynlluniau ffyrdd newydd, ac yn ôl cadeirydd pwyllgor o arbenigwyr ar drafnidiaeth a newid hinsawdd fyddai’r ffordd osgoi ddim yn cyd-fynd â pholisi trafnidiaeth a hinsawdd y Llywodraeth.
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn cynnig cyllid ar gyfer cynlluniau eraill a allai ddatrys problemau traffig Llanbedr a phentrefi eraill yr A496, medden nhw.
Yn ôl yr Aelod o’r Senedd dros yr ardal mae’n “cosbi cymuned dlawd, wledig”. Ychwanegodd Mabon ap Gwynfor o Blaid Cymru bod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn un “sinicaidd a rhagrithiol”.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dyfrig Siencyn, ei fod yn “gandryll” â’r cyhoeddiad, a bod y penderfyniad yn “dangos diffyg dealltwriaeth lwyr o sefyllfa wledig o ran defnydd ffyrdd a’r angen dirfawr am swyddi o ansawdd uchel yn un o’r ardaloedd sydd â’r incwm isaf.
“Mae’n amlwg, unwaith eto, y gellir aberthu ardaloedd gwledig yn wyneb newid hinsawdd tra bo’r gwir broblem a’r atebion yn ein hardaloedd trefol,” meddai Dyfrig Siencyn.
Dim “dealltwriaeth”
Wrth ymateb ar Twitter i’r penderfyniad, dywedodd Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor: “Ryden ni’n siarad yma am 1.5km o ffordd fyddai yn lliniaru ar bwysau dybryd yng nghanol Llanbedr, ac yn gwneud byd o les cymunedol, lles iechyd, a lles economaidd i ardal sydd efo’r lefel isaf o incwm yn y Deyrnas Gyfunol,” meddai.
“Bydd y penderfyniad yma yn arwain at draffig yn aros yn llonydd yn y pentref yn y tymor byr ac yn arwain at ragor o allfudo o’n cymunedau yn y tymor hir.
“Mae’n berffaith amlwg nad oes gan y Llywodraeth yma unrhyw ddealltwriaeth o fyw yn y wlad. Dim arlliw o grebwyll.
“Mae’n iawn i weinidogion etholaethau dinesig a threfol i ddweud wrth ardal dlawd, wledig nad oes hawl ganddyn nhw gael buddsoddiad yn eu hisadeiledd, wedi’r cwbl mae ganddyn nhw draffordd, ffyrdd deuol, bysiau dirifedi. Unwaith eto rydym yn gweld Cymru wledig yn gorfod cario’r pwysau trwm pan fo’n dod i bolisi newid hinsawdd y Llywodraeth.
“Beth mae’r Llywodraeth yn gwneud am y diwydiannau trymion sydd yn llygru – y diwydiannau trymion sy’n cyflogi eu hetholwyr nhw? Dim.
“Os ydyn nhw o ddifri am atal newid hinsawdd drwy bolisi ffyrdd yna y cam cyntaf fyddai cau yr M4. Mae rhaid gwneud penderfyniadau anodd meddai’r gweinidog. Wel, beth amdani? Na. Wnawn nhw ddim. Beth am atal cerbydau preifat rhag teithio ar ffyrdd Llanelli ac Abertawe a gorfodi pawb ar fysiau (mae digon yno) – etholaethau y gweinidogion yma? Na.
“Tydyn nhw ddim o ddifrif. Dyma gosbi cymuned dlawd wledig, sy’n ddigon pell o’u cadarnleoedd etholiadol hwy er mwyn iddyn nhw fynd i Glasgow a dweud ‘Ylwch arnom ni’. Y cyfan er mwyn pennawd yn ystod wythnos COP26. Sinicaidd a rhagrithiol.”
“Diffeithwch economaidd a chymunedau gwag”
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dyfrig Siencyn: “Mae hon yn ergyd drom i’n gobeithion a’n dyheadau ar ran bobl Meirionnydd. Er gwaethaf geiriau teg y Gweinidogion sy’n cynrychioli ardaloedd trefol, nid oes ganddynt unrhyw ddealltwriaeth na chydymdeimlad â’r problemau sy’n wynebu ein cymunedau gwledig, ac yn amlwg, nid oes ganddynt unrhyw awydd i wella bywydau pobl sy’n byw ac yn gweithio yma.
“Mae’r cynnydd posib mewn allyriadau carbon o’r cynllun ffordd newydd yn pylu’n llwyr o’i gymharu â’r allyriadau a’r llygredd mae trigolion Llanbedr yn ei ddioddef dros fisoedd yr haf, pan fydd cannoedd o gerbydau yn sefyll yn stond yn y pentref.
“Ar ben hynny, mae’n ymddangos bod ardaloedd gwledig bellach i’w tynghedu i ddiffeithwch economaidd a chymunedau gwag er budd y rhai sy’n teithio yma, waeth beth fydd eu hallyriadau carbon.
“Nid ydym i gael isadeiledd sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif a rhaid i ni fod yn fodlon â bywyd israddol tra bod y rhai sy’n ein dinasoedd a’n hardaloedd trefol yn elwa o system drafnidiaeth gyhoeddus effeithlon, a mynediad parod at swyddi a gwasanaethau cyhoeddus.
“Dw i’n gwahodd awduron yr adroddiad i ddod i fyw i Feirionnydd, fel y gallant brofi’r realiti o fywyd yma. Dylent ddod i’n cyfarfod i egluro sut y daethant i’w casgliadau diffygiol. Dw i’n anobeithio ein bod, unwaith eto, i ddioddef o agwedd drefol drahaus sy’n rhoi dim sylw i les cymunedau gwledig.
“Byddaf yn parhau i ymladd yn erbyn y penderfyniad hwn a byddaf yn parhau i bwyso ar y Gweinidogion am newid agwedd sylweddol.”
“Hunllef”
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r penderfyniad hefyd, gan ddweud y bydd y penderfyniad i atal y ffordd osgoi yn Llanbedr yn codi pryderon ymysg pobol am ddyfodol ffyrdd arfaethedig eraill.
“Bydd y penderfyniad diweddaraf hwn i stopio Ffordd Osgoi Llanbedr yn gadael pobol ag ofnau na fydd prosiectau ffyrdd eraill, a fyddai’n cynnig buddion enfawr i fywydau pobol a’r economi, yn parhau,” meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae’n bwysig bod manylion y ‘pecyn amgen o fesurau’ er mwyn mynd i’r afael â thraffig yn yr ardal yn cael ei wneud yn gyhoeddus mor fuan â phosib.”
Ychwanegodd Aelod o’r Senedd y Ceidwadwyr dros Ogledd Cymru, Darran Millar, fod “traffig yn yr ardal hon yn hunllef lwyr a bod nifer o bobol wedi gweld y ffordd gyswllt fel ffordd allan o’r digalondid”.
“Mae’n ergyd arbennig o anodd o ystyried bod rhai prosiectau ffyrdd yn parhau i ddigwydd yn ne Cymru, tra bod cynlluniau yng ngogledd Cymru’n cael eu hanghofio.”
Mesurau amgen
Wrth gyhoeddi’r penderfyniad, dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, bod yr adolygiad wedi ystyried nodau llesiant, gan gynnwys rhai ar gyfer Cymru; Llwybr Newydd, y Strategaeth Drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru; Cymru’r Dyfodol; Polisi Cynllunio Cymru a’r cynllun gweithredu carbon isel sydd ar y gweill ar gyfer Cymru Sero-net.
“Ymwelodd Cadeirydd y Panel â Llanbedr i weld lleoliad y cynllun ffordd, a chyfarfu â swyddogion Cyngor Gwynedd, Aerospace Cymru, a swyddogion Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddatblygu rhanbarthol, trawsnewid diwydiannol a seilwaith trafnidiaeth yng ngogledd Cymru. Derbyniwyd sylwadau ysgrifenedig gan Gymdeithas Eryri,” meddai mewn datganiad.
“Mae adroddiad y cadeirydd yn dod i’r casgliad nad yw’r cynllun arfaethedig yn cyd-fynd yn dda â pholisïau trafnidiaeth a hinsawdd newydd Llywodraeth Cymru, ac yn argymell na ddylai gael ei ddatblygu.
“Rwyf wedi derbyn argymhellion y cadeirydd Panel ac ni fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi unrhyw waith pellach ar Gynllun presennol Ffordd Fynediad Llanbedr.
“Fodd bynnag, rwy’n ymrwymedig i ddarparu cyllid ar gyfer datblygu a gweithredu pecyn amgen o fesurau i fynd i’r afael ag effaith negyddol traffig yn Llanbedr ac mewn pentrefi eraill ar yr A496, wrth ar yr un pryd annog pobol i newid y ffordd maent yn teithio a lleihau allyriadau CO2.
“Gall y pecyn hefyd ystyried gofynion mynediad i’r maes awyr i gefnogi datblygiadau cysylltiedig.
“Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion weithio gyda Chyngor Gwynedd i gomisiynu Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu pecyn amgen i’w ystyried, yn unol ag argymhellion y cadeirydd.”