Fe wnaeth nifer y marwolaethau’n ymwneud â Covid-19 yng Nghymru gynyddu ychydig yn yr wythnos hyd at 22 Hydref.

Cafodd Covid-19 ei grybwyll ar 81 o dystysgrifau marwolaeth yng Nghymru yn yr wythnos honno, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Roedd hyn yn gynnydd o’r 71 marwolaeth (14%) fu yn ystod yr wythnos flaenorol, ond yn gyson â nifer y marwolaethau yn yr wythnos hyd at 8 Hydref.

O ystyried yr ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr, bu cynnydd am yr ail wythnos yn olynol, gyda 792 o farwolaethau’n cael eu cofnodi, sy‘n gynnydd o 11% ers yr wythnos flaenorol.

Er hynny, mae nifer y marwolaethau dipyn is na’r lefelau a welwyd yn ystod yr ail don.

Yn yr wythnos hyd at 29 Ionawr 2021, bu 8,433 o farwolaethau’n ymwneud â Covid-19 yng Nghymru a Lloegr, sef y nifer uchaf yn ystod yr ail don.

O gymharu, mae’r cyfanswm wythnosol wedi bod rhwng 600 a 900 dros y ddeufis ddiwethaf.

Yn ôl ymchwil Prifysgol Caergrawnt ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig, mae’r brechlynnau wedi atal tua 127,500 o farwolaethau Covid-19 yn Lloegr.

Mwy o farwolaethau nag arfer

Fodd bynnag, mae yna fwy o bobol yn marw nawr nag sy’n arfer gwneud yn ystod yr adeg hon o’r flwyddyn.

Roedd cyfanswm y marwolaethau a gafodd eu cofnodi yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 22 Hydref 12.9% yn uwch na’r cyfartaledd dros bum mlynedd cyn y pandemig, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Roedd hynny’n cyfateb ag 81 o farwolaethau ychwanegol.

Gan ddefnyddio’r data diweddaraf, bu 59,209 o farwolaethau yng Nghymru rhwng 13 Mawrth 2020 a 22 Hydref 2021, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Roedd 8,565 o’r marwolaethau hyn yn crybwyll Covid-19, sef 14.5%, ac roedd y cyfanswm 6,042 yn uwch na’r nifer cyfartalog o farwolaethau dros bum mlynedd.