Mae dau ddyn a merch 16 oed wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth yn dilyn ymosodiad ar ddyn mewn parc yng Nghaerdydd.

Bu farw Dr Gary Jenkins, 54, 16 diwrnod ar ôl yr ymosodiad ym Mharc Biwt, Caerdydd yn ystod oriau man 20 Gorffennaf. Roedd Dr Gary Jenkins yn dad i ddau o blant o Gaerdydd.

Fe ymddangosodd Jason Edwards, 25, a Lee William Strickland, 36, o Gaerdydd, a merch 16 oed, na ellir cyhoeddi ei henw am resymau cyfreithiol, gerbron Llys y Goron Casnewydd.

Roedd y tri wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiad o lofruddio, dynladdiad a dwyn.

Maen nhw hefyd wedi gwadu achosi niwed corfforol.

Fe fydd y tri yn cael eu cadw yn y ddalfa cyn gwrandawiad arall ar 10 Rhagfyr ac mae disgwyl i’r achos ddechrau ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf.