Mae dau swyddog gyda Heddlu’r Metropolitan wedi pledio’n euog i gyhuddiad o rannu delweddau ar WhatsApp o gyrff dwy chwaer gafodd eu llofruddio yn Llundain.

Roedd y plismyn Deniz Jaffer a Jamie Lewis yn diogelu’r safle wedi i’r chwiorydd Bibaa Henry, 46, a Nicole Smallman, 27,  gael eu canfod yn farw mewn gwrychoedd ym Mharc Fryent yn Wembley yng ngogledd orllewin Llundain.

Roedd y ddau wedi tynnu lluniau “amhriodol” o’r cyrff ac “heb awdurdod”, cyn eu rhannu ar WhatsApp.

Roedd Deniz Jaffer wedi tynnu pedwar llun a Jamie Lewis wedi tynnu dau lun. Roedd un o’r lluniau hynny wedi’u hanfon at gyd-weithwraig, gyda llun o wyneb Jamie Lewis arno.

Yn ystod gwrandawiad yn yr Old Bailey heddiw (dydd Mawrth, 2 Tachwedd) roedd y ddau swyddog wedi cyfaddef camymddwyn mewn swydd gyhoeddus rhwng 7 Mehefin a 23 Mehefin y llynedd.

Cafodd Jaffer, 47, o Hornchurch, dwyrain Llundain, a Lewis, 33, o Colchester, yn Essex, eu harestio fel rhan o ymchwiliad troseddol gan y Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Cafodd y ddau eu gwahardd o’u gwaith ar ôl cael eu harestio ar 22 Mehefin y llynedd.

Roedd y barnwr Mark Lucraft QC wedi rhyddhau’r ddau swyddog ar fechnïaeth amodol tan fis Rhagfyr nes bod adroddiadau yn cael eu paratoi.

Maen nhw wedi cael rhybudd eu bod yn wynebu cyfnod dan glo pan fyddan nhw’n cael eu dedfrydu.

Wythnos ddiwethaf cafodd Danyal Hussein, 19, ei garcharu am oes am lofruddio Bibaa Henry a Nicole Smallman.