Mae cwmni newydd o’r gogledd yn datblygu therapi newydd at ganser esgyrn prin, a mathau eraill o ganser sy’n fwy cyffredin, megis canser y fron, y brostad, y colon a’r rhefr, a’r ysgyfaint.
Bydd Ceridwen Oncology, sydd wedi’i leoli ym mharc gwyddoniaeth Prifysgol Bangor ar Ynys Môn, MS-Parc, yn datblygu canfyddiadau meddygol prifysgolion Bangor a Chaerdydd yn driniaethau meddygol.
Mae’r cwmni newydd wedi’i ddewis, a hynny o blith cystadleuwyr eraill, i ymuno â rhaglen Datblygu Oncoleg Alderley Park, sy’n un o’r arweinwyr y maes yn fyd-eang.
Nod y rhaglen yw nodi a datblygu arloesedd ym maes oncoleg, a fydd yn gwella diagnosis a thriniaeth canser.
Y rhaglen
Mae’r rhaglen yn bwriadu cyflwyno prosiectau oncoleg yn llawer cyflymach, er mwyn cynyddu’r siawns eu bod nhw’n llwyddo’n fasnachol, ac yna’n cynnig buddion i gleifion yn y pendraw.
Cafodd rhaglen Datblygu Oncoleg Alderley Park ei sefydlu gan Innovate UK Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Cancer Research UK mewn partneriaeth â rhai o gwmnïau fferyllol mwyaf y byd – Astra Zeneca, GlaxoSmithKline, Johnson & Johnson a Roche.
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn adnabod nodwedd unigryw o ganser yr esgyrn prin o’r enw chordoma, ac maen nhw wedi nodi cyfres o foleciwlau sy’n rhwystro’r celloedd canser hyn rhag gallu datblygu’r afiechyd.
Yn ogystal, mae’r ymchwil wedi dangos y gall y moleciwlau hyn weithio yn erbyn mathau mwy cyffredin o ganser.
“Plentyn erchyll”
Y cam nesaf yw trosi’r wybodaeth wyddonol hon yn driniaeth, a gall fod yn broses hir, heriol a drud, a thrwy ffurfio cwmni, mae posib i’r gwyddonwyr gael mynediad at fuddsoddwyr.
Eglurodd Dr Ramsay McDarlane, a gymerodd ran yn y gwaith ymchwil, a fydd yn rhan o’r tîm datblygu, enw’r cwmni newydd: “Roedd Ceridwen yn ddewines dadeni, trawsnewidiad ac ysbrydoliaeth mewn chwedloniaeth Gymreig a esgorodd ar blentyn erchyll, ond defnyddiodd ei doethineb i greu diod a allai ei wella trwy yfed tri defnyn ohono,” meddai Dr Ramsay McFarlane.
“Mae cymesuredd rhwng y chwedl hon a’n gwaith ymchwil ninnau, sydd wedi’i seilio ar enynnau sy’n gysylltiedig â genedigaeth newydd.
“Gwelwn y canser fel y plentyn erchyll a’n datblygiad therapiwtig fel rhywbeth sy’n cyfateb i dri defnyn iachaol Ceridwen.”
“Datblygiad arwyddocaol”
Daeth y cyllid ar gyfer yr ymchwil gwreiddiol ym Mhrifysgol Bangor gan Rwydwaith Ymchwil Gwyddorau Bywyd Cymru, menter sy’n cael ei hariannu gan Raglen Sêr Cymru Llywodraeth Cymru, ac elusen ganser Ymchwil Canser Cymru.
Dywedodd yr Athro Peter Halligan, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru: “Mae Ceridwen Oncology yn ddatblygiad arwyddocaol ym maes Ymchwil a Datblygu Cymru ac yn enghraifft wych o’r bartneriaeth gref sy’n bodoli rhwng ymchwil ym mhrifysgolion Cymru a diwydiannau fferyllol y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.
“Mae ymuno â rhaglen Datblygu Oncoleg Alderley Park (APODP), yn gyfle enfawr i Gymru ac yn glod mawr i’r ymchwil arloesol a gynhelir gan grwpiau ymchwil ym mhrifysgolion Bangor a Chaerdydd a gefnogir yn rhannol gan Raglen Sêr Cymru.”