Mae Mark Drakeford wedi canmol y Deyrnas Unedig yn ystod brecwast yn COP26, gan ddweud nad oes modd “cael yr effaith rydych chi eisiau ei chael heb gysylltu â chyfrifoldebau” arweinwyr eraill yr Undeb.

Fe wnaeth ei sylwadau yn ystod y brecwast yn uwchgynhadledd newid hinawdd COP26 yn Glasgow, gydag arweinwyr eraill y Deyrnas Unedig hefyd yn bresennol.

Mae lle i gredu bod Boris Johnson wedi mynd i’r digwyddiad am gyfnod byr, gan annerch tua 40 o arweinwyr o bob cwr o’r byd – yn eu plith roedd Mia Mottley, prif weinidog Barbados sydd eisoes wedi creu argraff yn yr uwchgynhadledd wrth wneud anerchiad yn ystod y seremoni agoriadol.

Dywedodd Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, fod gan ddinas Glasgow a dinasoedd eraill o amgylch y byd gyfrifoldeb “i helpu tynnu’r byd i mewn i oes sero-net”, yn enwedig y dinasoedd a’r gwledydd hynny sydd â hanes diwydiannol.

“Fel arweinwyr yma, mae gennych chi bwysau’r cyfrifoldeb ar eich ysgwyddau,” meddai wrth yr arweinwyr eraill, gan ychwanegu bod angen mynd i’r afael â chyfyngu cynhesu byd eang i 1.5 gradd selsiws “mewn ffordd sy’n deg ac sy’n cydnabod cyfrifoldeb gwledydd sydd wedi datblygu i wledydd sy’n datblygu”.

‘Dod ag arweinwyr pedair gwlad y Deyrnas Unedig ynghyd ar un llwyfan’

“Ro’n i’n meddwl bod y brecwast yn ddigwyddiad da,” meddai Mark Drakeford.

“Fe wnaeth yr hyn roedden i’n gobeithio y byddai’n ei wneud.

“Fe ddaeth â holl arweinwyr pedair gwlad y Deyrnas Unedig ynghyd ar un llwyfan, fe roddodd y cyfle i ni gyd ailbwysleisio’r ffaith, tra bod gennym ein cyfrifoldebau ein hunain, ein bod ni’n deall oni bai eich bod chi’n cysylltu â’r cyfrifoldebau sydd gan bobol eraill, chewch chi fyth yr effaith rydych chi eisiau ei chael.

“Roedden ni’n gallu gwneud hynny gerbron oddeutu 40 o arweinwyr o rannau eraill o’r byd, fel y gallwn ni wneud y cysylltiadau byd-eang hynny hefyd.”