Mae gwleidyddion wedi ymateb yn chwyrn i luniau o Boris Johnson a Joe Biden yn ymddangos fel pe baen nhw’n cysgu yn Uwchgynhadledd COP26 yn Glasgow.

Roedd y llun o Brif Weinidog y Dyernas Unedig hefyd yn ei ddangos yn eistedd drws nesaf i Syr David Attenborough – sy’n 95 oed – heb orchudd ar ei wyneb, ac mae llawer wedi beirniadu hynny.

Mae Johnson eisoes wedi codi gwrychyn ar ôl iddi ddod i’r amlwg y bydd yn teithio adref o’r gynhadledd mewn awyren breifat, sydd yn rhannol am ddefnyddio tanwydd cynaliadwy, yn hytrach na mynd ar drên.

Dywed rhai fod ei ymddygiad yn hynny o beth yn rhagrithiol wrth ystyried ei fod yn annog gwledydd ac arweinwyr ledled y byd i leihau allyriadau carbon a chwarae eu rhan yn lliniaru effeithiau newid hinsawdd.

Rhwng cwsg ac effro

Fe gafodd Arlywydd America Joe Biden ei ddal gan gamera yn edrych fel pe bai’n disgyn i gysgu wrth wrando ar rai o areithiau’r gynhadledd ddoe (dydd Llun, Tachwedd 1).

Mae’n ymddangos fel pe bai’n deffro wrth i swyddog ddod i sibrwd rhywbeth yn ei glust, ac mae’n parhau i gymeradwyo diwedd yr araith.

Doedd hi ddim yn hollol glir a oedd Boris Johnson yn cysgu ai peidio, ond roedd llawer wedi cyfeirio ar y cyfryngau cymdeithasol at y ffaith ei fod heb fwgwd ac yn eistedd drws nesaf i’r naturiaethwr Syr David Attenborough, sy’n 95 oed.

Roedd hynny wedi achosi i ambell un gwestiynu a oedd Johnson yn poeni am reolau a lledaeniad Covid-19 ai peidio.

Ar y llaw arall, roedd rhai lluniau yn dangos y Prif Weinidog yn gwisgo gorchudd wyneb, ac Attenborough ddim yn gwneud hynny.

Mae’r uwchgynhadledd yn Glasgow wedi cyflwyno nifer o reoliadau i sicrhau fod y digwyddiad yn fwy diogel rhag y feirws, gan gynnwys gorfodi ymwelwyr i gymryd prawf cyn cyrraedd a chael brechlyn Covid-19.

Colli cwsg?

Mae sawl gwleidydd wedi ymateb i’r lluniau o’r ddau â’u llygaid ar gau.

Fe wnaeth yr Aelodau o’r Senedd Llafur, Lynne Neagle ac Eluned Morgan, alw Johnson yn “warth” ar ôl gweld y lluniau ar Twitter.

Galwodd Leanne Wood, cyn-arweinydd Plaid Cymru, ar y ddau arweinydd i “ddeffro”, gan ychwanegu bod “y tŷ ar dân.”

Fe wnaeth David Lammy, llefarydd Cyfiawnder yr wrthblaid yn San Steffan, hefyd wneud sylw lled-ddychanol gan ddweud ei bod hi’n “amser deffro”, a’i bod hi’n bryd i’r Llywodraeth “dalu sylw i’r argyfwng hinsawdd.”

Trafodaethau

Heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 2), fe wnaeth mwy na 100 o wledydd, gan gynnwys y Deyrnas Unedig, lofnodi cytundeb i ddod â datgoedwigo i ben erbyn 2030.

Dywedodd Boris Johnson wrth ymateb i hynny mai “fforestydd yw ysgyfaint y blaned”.

“Heddiw @COP26, bydd dros 100 arweinydd yn cynrychioli 85% o fforestydd y byd yn gwneud gweithred nodweddiadol i ddod â datgoedwigo i ben erbyn 2030,” meddai.

“Gyda’r addewid hwn, mae gennym ni siawns i ddod â’r hanes hir o ddynoliaeth yn concro natur i ben, gan ddod yn geidwaid yn hytrach.”

 

Cop26: mwy na 100 o wledydd yn arwyddo cytundeb i ddiogelu coedwigoedd y byd

Arweinwyr sy’n gyfrifol am 85% o goedwigoedd y byd yn cytuno i ddod a datgoedwigo i ben erbyn 2030