Mae un o bwyllgorau senedd y Dail yn Iwerddon yn awgrymu codi treth ar wasanaethau ffrydio fel Netflix ac Amazon Prime er mwyn ariannu cynnwys gwreiddiol yn Iwerddon.

Mae cynhyrchwyr wedi croesawu’r awgrym hefyd, gan ddweud y gallai godi o leiaf 23m Ewro i greu cynnwys gwreiddiol.

Mae adroddiad Pwyllgor Cyfryngau’r Oireachtas hefyd yn argymell y dylid creu swydd Comisiynydd Diogelwch Ar-lein gyda’r pwerau i blismona a rheoleiddio cynnwys niweidiol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl Niamh Smyth, cadeirydd y pwyllgor sy’n aelod Sinn Fein, byddai’r ddeddfwriaeth newydd “yn gosod Iwerddon ymhlith gwledydd cynta’r byd i ddarparu rheoleiddio systemig o lwyfannau ar-lein”.

Cefndir ac ymateb

“Mae Pwyllgor Cyfryngau’r Oireachtas wedi dangos cefnogaeth drawsbleidiol gref heddiw i sector cynhyrchu annibynnol Iwerddon nid yn unig wrth argymell ardreth cynnwys newydd ar wasanaethau cyfryngau ar-lein ond hefyd wrth nodi’n glir mai’r sector cynhyrchu annibynnol yn Iwerddon ddylai gael mynediad iddi,” meddai Susan Kirby, prif weithredwr Screen Producers Ireland.

“Mae’r ardreth yma, na fyddai’n costio’n ychwanegol i’r trysorlys, wedi cael ei nodi gan [ymgynghorwyr ariannol] Indecon fel rhywbeth a allai godi o leiaf 23m Ewro mewn arian ychwanegol i greu cynnwys gwreiddiol yn Iwerddon.

“Rydym yn ddiolchgar i’r pwyllgor am ystyried ein pryderon cyn datblygu’r adroddiad hwn ac edrychwn ymlaen at ragor o gyfathrebu â nhw dros y misoedd i ddod wrth i’r ddeddfwriaeth i gyflwyno’r ardreth, ynghyd â mesurau eraill, gael ei thrafod yn yr Oireachtas.”

Ychwanegodd mai’r flaenoriaeth bellach yw cyflwyno’r ardreth “heb oedi fel bod posibiliadau ariannu newydd ar gyfer cynhyrchwyr o Iwerddon i greu cynnwys Gwyddelig gwreiddiol i gynulleidfaoedd Gwyddelig a rhyngwladol yn digwydd”.

Dichonadwyedd

Mae’r pwyllgor wedi awgrymu na ddylid cyflwyno’r mesurau hyd nes bod modd gwirio eu bod nhw’n ddichonadwy a bod adolygiad yn cael ei gynnal gan Gomisiwn y Cyfryngau.

Cafodd yr argymhellion eu cyflwyno mewn deddfwriaeth heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 2).

Byddai’r ddeddfwriaeth hefyd yn gofyn bod cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn cyflwyno adroddiadau chwarterol i Gomisiwn y Cyfryngau ynghylch y modd maen nhw’n ymdrin â chwynion.

Byddai hefyd yn gosod isafswm oedran ar greu cyfrifon ar wasanaethau ar-lein penodol, ac yn cyflwyno gwaharddiad ar hysbysebu byrbwydydd, alcohol a gamblo i blant.

Byddai niwed ariannol a chamwybodaeth, gan gynnwys gamblo, yn cael ei nodi fel “cynnwys niweidiol” yn ôl y Bil.