Mae dyn a gafodd ei arestio yng Nghymru wedi bod gerbron llys, wedi ei gyhuddo o lofruddio dynes yn 2018.

Cafodd Stuart Williamson, sy’n 56 oed o Norfolk, ei arestio yng Nghymru ddydd Sadwrn (Hydref 30) ar amheuaeth o lofruddio Diane Douglas, dynes 58 oed o Norfolk.

Mae’n debyg fod y llofruddiaeth wedi digwydd ym mis Rhagfyr 2018.

Dim ond ym mis Hydref eleni y gwnaeth teulu Diane Douglas roi gwybod i’r heddlu ei bod hi ar goll.

Dywedodd heddluoedd Norfolk a Suffolk nad oedd corff wedi ei ganfod yn rhan o’u hymchwiliad, ac nad oedd neb wedi gweld Diane Douglas ers “cyfnod sylweddol.”

Gwrandawiad

Aeth Stuart Williamson gerbron Llys Ynadon Norwich trwy gyswllt fideo heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 2).

Dywedodd o ddim byd heblaw cadarnhau ei fanylion personol yn ystod y gwrandawiad, a doedd dim rhaid iddo nodi sut mae’n bwriadu pledio.

Mae wedi’i gadw yn y ddalfa yng nghanolfan ymchwilio’r heddlu yn Wymondham, Norfolk, cyn mynd gerbron Llys Ynadon Norwich eto fory (dydd Mercher, Tachwedd 3).

Car heddlu ar y stryd fawr

Diflaniad dynes 58 oed: arestio dyn 56 oed yng Nghymru

Does neb wedi gweld Diane Douglas ers peth amser