Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i ddiflaniad dynes 58 oed o ardal Norwich wedi arestio dyn o Gymru.

Cafodd yr heddlu wybod ar Hydref 21 fod Diane Douglas o Colton ar goll ar ôl i’w theulu fethu â chysylltu â hi.

Ar ôl i’r heddlu fethu â dod o hyd iddi, maen nhw bellach wedi arestio dyn 56 oed ar amheuaeth o’i llofruddio, ac maen nhw’n dweud bod y ddau yn adnabod ei gilydd.

Yn ôl yr heddlu, maen nhw’n gobeithio dod o hyd iddi’n fyw, er mor annhebygol yw hynny.

Mae’r heddlu’n chwilio eiddo yn Colton.