Mae rhewlif yn Antarctica wedi cael ei enwi ar ôl dinas Glasgow, sy’n cynnal uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 eleni.

Mae’r rhewlif yn un o naw ardal lle mae iâ yn llifo’n gyflym yn Getz ar ochr orllewinol y cyfandir ac sydd wedi cael ei enwi ar ôl dinas sy’n cynnal yr uwchgynhadledd neu sy’n benthyg ei henw i gytundeb newid hinsawdd, cynhadledd newid hinsawdd neu adroddiad ar newid hinsawdd.

Mae mwy na 100 o arweinwyr gwleidyddol wedi teithio i Glasgow ar gyfer yr uwchgynhadledd fydd yn dod i ben ar Dachwedd 12.

Astudiaeth

Daeth y cais i enwi’r rhewlif ar ôl Glasgow gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Leeds, a’r ymchwilydd PhD Heather Selley sydd wedi adnabod 14 rhewlif yn y basn yn Getz sy’n teneuo ac yn llifo’n gynt i’r môr.

Mae ei hastudiaeth, a gafodd ei chyhoeddi fis Chwefror, yn nodi bod 315 giga-tunnell o iâ wedi’u colli o ardal Getz dros y chwarter canrif diwethaf, gan ychwanegu 0.9mm at lefel y môr, sy’n cyfateb i 126m pwll nofio Olympaidd o ddŵr.

Caiff rhewlifoedd eu henwi yn nhrefn gronolegol yr uwchgynadleddau, gan ddechrau gyda Geneva, lleoliad yr uwchgynhadledd gyntaf yn 1979.

Mae rhewlif Glasgow yn nodi lleoliad COP26.