Mae Downing Street yn gwadu bod Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, ac Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, wedi dod i gytundeb ynghylch hawliau pysgotwyr.

Daw hyn wrth i swyddogion Ffrainc ddweud bod y ddau arweinydd wedi dod i gytundeb i gymodi yn dilyn ffrae fawr yn dilyn Brexit.

Mae’r ddau wedi cyfarfod yn uwchgynhadledd y G20 yn Rhufain ar drothwy uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 yn Glasgow.

Mae llefarydd ar ran Boris Johnson yn dweud nad yw ei swyddfa’n cydnabod honiadau Ffrainc ac mai “mater i Ffrainc yw a ydyn nhw am gamu i ffwrdd o’r bygythiadau maen nhw wedi’u gwneud dros y dyddiau diwethaf” ynghylch torri amodau Brexit.

Mae Ffrainc yn bygwth gwahardd cychod pysgota o’r Deyrnas Unedig rhag mynd i rai porthladdoedd, ac yn tynhau chwiliadau tollau ar lorïau sy’n cludo nwyddau i Ffrainc o ddydd Mawrth (Tachwedd 2) oni bai bod rhagor o drwyddedau ar gyfer cychod pysgota bach yn cael eu rhoi.

Mae Prydain yn cyhuddo Ffrainc o ymddwyn yn groes i delerau Brexit.

Yn ôl llefarydd ar ran Boris Johnson, mae e wedi “ategu ei bryder mawr” am sylwadau Llywodraeth Ffrainc, gan gynnwys yr awgrym y dylid “cosbi” Llywodraeth y Deyrnas Unedig am adael yr Undeb Ewropeaidd.

Maen nhw’n dweud ei fod e “wedi mynegi ei obaith y byddai Llywodraeth Ffrainc yn gollwng y rhethreg yma ac yn tynnu eu bygythiadau’n ôl”.