Mae dyn 55 oed wedi cael ei ladd yn ystod gŵyl ymladd teirw yn Sbaen.
Cafodd e anafiadau i’w goes wrth i deirw redeg yn wyllt ar strydoedd tref Onda yn nhalaith Castellon.
Mae’r awdurdodau wedi gohirio diwrnod ola’r ŵyl yn dilyn y digwyddiad, ac mae lle i gredu mai dyma’r tro cyntaf ers ailddechrau’r gornestau wedi’r pandemig i rywun gael ei ladd gan darw.
Yn ôl adroddiadau, cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty, lle bu farw ar cael triniaeth gan feddygon.
Mae gwasanaeth newyddion Levante yn adrodd fod dau berson arall wedi cael eu hanafu mewn digwyddiadau tebyd mewn tref arall.
Y digwyddiad ymladd teirw enwocaf yn Sbaen yw gŵyl San Fermin yn Pamplona fis Gorffennaf, ond dydy’r digwyddiad ddim wedi cael ei gynnal ers dwy flynedd oherwydd y pandemig Covid-19.