Mae dau o bobol wedi cael anafiadau difrifol, ac mae person arall wedi cael ei anafu, yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhontrhydyfen.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd B4287 yn Efail Fach ger Port Talbot neithiwr (nos Sadwrn, Hydref 31).

Cafodd y tri eu cludo i’r ysbyty, lle mae un person wedi cael anafiadau fydd yn newid eu bywyd.

Yn ô yr heddlu, digwyddodd y gwrthdrawiad am oddeutu 7.30yh pan darodd dau gar yn erbyn ei gilydd wrth deithio i gyfeiriadau gwahanol.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae Heddlu’r De yn gofyn am dystion.