Fe fydd mwy na 100 o arweinwyr byd yn arwyddo cytundeb i ddiogelu ac adfer coedwigoedd ar draws y byd, meddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Ar ail ddiwrnod yr uwchgynhadledd newid hinsawdd Cop26 yn Glasgow heddiw (dydd Mawrth, 2 Tachwedd) fe fydd arweinwyr sy’n gyfrifol am 85% o goedwigoedd y byd yn arwyddo cytundeb i ddod a datgoedwigo i ben erbyn 2030.

Dywedodd Downing Street bod £8.75 biliwn o arian cyhoeddus yn cael ei roi tuag at wireddu’r addewidion gyda £5.3 biliwn ychwanegol o fuddsoddiad preifat.

Fe fydd yr ymrwymiad yn cael ei gyhoeddi’n swyddogol mewn digwyddiad sydd wedi’i drefnu gan Boris Johnson. Mae’r cyhoeddiad wedi cael ei groesawu gan ymgyrchwyr ac arbenigwyr, yn enwedig y gydnabyddiaeth i rôl pobl frodorol wrth ddiogelu coedwigoedd.

Ond mae yna rybudd bod angen gweithredu ar yr ymrwymiadau a bod yn rhaid diogelu coedwigoedd yn ogystal â ffocws ar adfer coedwigoedd. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud y bydd yn cefnogi nod Cop26 o atal cynhesu byd eang i 1.5C drwy leihau allyriadau carbon. Mae mynd i’r afael a datgoedwigo yn rhan hanfodol i wneud hyn yn ôl arbenigwyr.

Mae’r tir sy’n rhan o’r cytundeb yn cynnwys coedwigoedd yng Nghanada a Rwsia a choedwigoedd glaw Brasil, Colombia, Indonesia a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo – ardal o fwy na 13 miliwn milltir sgwâr.

Wrth drydar o’r uwchgynhadledd, dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford: “Drwy weithio gyda’n gilydd a chymryd camau ar y cyd, gallwn sicrhau dyfodol gwyrddach ar gyfer y genhedlaeth nesaf.”

Mae disgwyl i Mark Drakeford gwrdd â’r Prif Weinidog Boris Johnson heddiw.