Mae’r Aelod Seneddol Hywel Williams wedi dweud bod yr “hawl gan Catalwnia i fod yn wlad annibynnol”.
Gwnaeth y sylwadau ar y wefan newyddion o Gatalwnia, El Nacional, gan gyfeirio at y tebygrwydd rhwng mudiad annibyniaeth Catalwnia, a Chymru a’r Alban.
Mae’r Aelod dros Arfon wedi bod yn gefnogwr o’r ymgyrch annibyniaeth yn y wlad ar benrhyn Iberia ers y 1980au, ac mae’n gadeirydd ar y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Gatalwnia yn Senedd San Steffan.
Drwy’r grŵp hwn, mae wedi dod â’r sefyllfa yng Nghatalwnia i Dŷ’r Cyffredin ar sawl achlysur.
Ail refferendwm yn yr Alban
Roedd Hywel Williams yn cofio yn ôl at y sefyllfa yng Nghatalwnia yn 2017, gan ddweud y byddai’r un ymateb ddim yn digwydd yn yr Alban pe baen nhw’n pleidleisio o blaid gadael yr Undeb.
“Roeddwn i yng Nghatalwnia ar gyfer y refferendwm,” meddai wrth El Nacional.
“Gwelais y Gwarchodlu Sifil yn torri i mewn i orsaf bleidleisio, gan guro pobl… Penderfynodd Madrid dawelu’r cwestiwn a rhoi’r gwleidyddion yn y carchar.
“Yma, ar y llaw arall, dydw i ddim yn credu bod pobol fel fi yng Nghymru neu’r Alban mewn perygl o gael ein carcharu. Mae’r diwylliant gwleidyddol yn wahanol.
“Pe bai’r galw am refferendwm yn yr Alban yn amlwg yn gryf ac yn barhaus, yn y diwedd fyddan nhw ddim yn gallu ei wrthod.
“Ac mae’r holl bolau yn dangos bod o leiaf hanner eisiau pleidleisio am annibyniaeth yr Alban. Yn ogystal, yn yr etholiadau, roedd y gefnogaeth i’r SNP yn glir. Felly mae’r dystiolaeth ar gyfer refferendwm yn gryf iawn yn wir.”
Sefyllfa Cymru
Soniodd Hywel Williams wrth y wefan newyddion o Gatalwnia am sefyllfa’r mudiad annibyniaeth yng Nghymru.
“Dim [refferendwm ar annibyniaeth] yw’r flaenoriaeth ar hyn o bryd, ond mae pobol yn dechrau meddwl amdano,” meddai wrth El Nacional.
“Ar hyn o bryd, mae gennyn ni Covid, amddifadedd economaidd, cyflogau isel, yr hinsawdd, ond rhan o’r ateb i’r problemau hyn yw annibyniaeth, er mwyn mynd i’r afael â nhw’n iawn.
“Dydyn ni ddim yn ystyried cyrraedd annibyniaeth yr wythnos nesaf – fe fydd hi’n broses hir – ond heddiw, rwy’n teimlo’n fwy hyderus y byddwn yn ei gyflawni.
“Yn y bôn, mae hynny oherwydd ein bod ni’n meddwl y gallwn ni wneud llawer o bethau yn llawer gwell.
“Mae yna ddywediad. Un mae fy ffrindiau Catalaneg yn ei adnabod yn dda iawn: ‘Nid oes unrhyw wlad yn cael ei llywodraethu’n dda gan ei chymdogion.’
“Mae Cymru yn llawer mwy asgell chwith a gwyrdd. Os ydych chi’n cymharu ni â’r Deyrnas Unedig gyfan, gallwch weld y gwahaniaeth.
“Llundain sy’n gyfrifol am wleidyddiaeth, nid Cymru, felly os ydyn ni’n annibynnol, gallwn osod ein blaenoriaethau ein hunain.”