Mae unig gynghorydd sir y Blaid Werdd yng Nghymru wedi cyhoeddi ei bod hi’n ymuno â Phlaid Cymru.

Daeth Emily Durrant yn gynghorydd dros ward Llangors ar Gyngor Sir Powys yn etholiad 2017.

Fe safodd hi Etholiad y Senedd eleni dros y Blaid Werdd, gan ymgeisio am sedd etholaeth Brycheiniog a Maesyfed a rhanbarth Canolbarth Cymru.

Newid plaid

“Nid yw newid plaid yn benderfyniad hawdd, ac mae wedi dod ar ôl llawer o feddwl dwfn a gofalus,” meddai Emily Durrant.

“Ond mae wedi dod yn amlwg i fi na fydd cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol fyth yn cael ei gyflawni tra ein bod yn y pen draw yn cael ein llywodraethu gan San Steffan.

“Newid yn yr hinsawdd a cholli natur yw’r her fwyaf sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol.

“Ond, gyda rheolaeth lawn dros ein hadnoddau ein hunain, masnach a seilwaith byddai Cymru mewn gwell sefyllfa i gyfrannu at y frwydr fyd-eang yn erbyn newid yn yr hinsawdd – a datgloi potensial gwyrdd Cymru ar yr un pryd.

“Rydw i eisiau bod yn aelod o blaid sy’n gosod y gwaith o geisio annibyniaeth fel ei brif flaenoriaeth.

“Plaid sy’n grymuso pobl leol a’u cymunedau.

“Plaid sy’n mynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur o flaen a chanol.

“Plaid a fydd yn gweithio tuag at sicrhau dyfodol cynaliadwy er budd pawb.

“Dyna pam rydw i wedi ymuno â Phlaid Cymru.”

Ymateb yr Arweinydd

Roedd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn croesawu’r cyhoeddiad.

“Mae Emily yn Gynghorydd gweithgar uchel ei pharch a gweithgar ac rwy’n hyderus y bydd hi’n gwneud cyfraniad sylweddol i waith ein plaid,” meddai.

“Mae ei phenderfyniad yn adlewyrchu apêl eang Plaid Cymru ac yn wythnos COP26, mae’n ardystiad pwerus o ymrwymiad y blaid i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.”

Mae hyn yn golygu bod grŵp Plaid Cymru ym Mhowys bellach wedi codi i dri chynghorydd.