Mae cwest wedi clywed bod dyn o Sudan a fu farw yng Nghasnewydd yn 2018 wedi dianc i Brydain rhag cael ei erlid yn ei famwlad.

Roedd Mustafa Dawood yn rhedeg oddi wrth swyddogion mewnfudo llynedd pan ddisgynnodd i’w farwolaeth drwy do warws.

Cafodd y dyn 23 oed ei ganfod gydag anafiadau angheuol i’w ben yn dilyn cyrch mewn golchfa ceir yng Nghasnewydd.

Mae’n rhaid i’r rheithgor benderfynu ar yr amgylchiadau a achosodd marwolaeth Dawood yn ystod y cwest yn Llys Crwner Gwent.

Erlid

Fe glywodd y cwest fod Dawood yn aelod o lwyth Zaghawa yn rhanbarth Darfur yng ngorllewin Sudan – llwyth sy’n aml yn cael eu herlid gan grwpiau eithafol Arabaidd.

“Roedd Mustafa yn ei chael yn fwyfwy anodd byw yn Sudan, ac roedd yr awdurdodau yn ei stopio’n rheolaidd,” meddai’r crwner, Caroline Saunders.

“Yn y pen draw, roedd yn teimlo bod y sefyllfa’n annioddefol felly fe benderfynodd adael.”

Nododd Saunders fod cais Dawood am loches wedi cael ei wrthod, ac fe ddywedodd y bydd rhaid i’r rheithgor benderfynu a oedd y swyddogion mewnfudo wedi cadw at y rheolau.

Fe wnaeth swyddogion ymweld â’r olchfa ceir ar Stryd Albany am 10:08yb ar 30 Mehefin, 2018.

Fe welodd y rheithgor luniau cylch cyfyng ohono yn cael ei erlid drwy ystâd fasnachu, funudau cyn iddo gael ei ganfod yn anymwybodol ar lawr y warws.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, cyn cael ei bennu’n farw’r prynhawn hwnnw.

Sefyllfa Sudan

Roedd mam Mustafa Dawood, Hameda Hamed Shogar Ahmed, yn y llys ar ôl teithio o Sudan.

Dywedodd wrth y llys fod ei mab yn cael ei stopio’n gyson gan yr awdurdodau yn ei famwlad.

“Roedd Mustafa yn agos iawn ataf i a’i dad ac roedd yn caru ei frodyr a chwiorydd yn fawr iawn,” meddai.

“Roedd yn caru pêl-droed ac roedd yn ffrind da a ffyddlon.

“Fe gafodd [ei ffrindiau] eu heffeithio cymaint pan glywon nhw ei fod wedi marw – mae hyn yn dystiolaeth o gryfder ei gyfeillgarwch.

“[Yn Sudan], mae cymaint o ladd yn digwydd pob dydd, mae llawer o bobol ifanc yn cael eu lladd neu’n diflannu – dyna pam mae’n rhaid i’n dynion ifanc ffoi er mwyn osgoi’r un dynged.”

Ymchwilio i farwolaeth dyn yn ystod cyrch mewnfudo Casnewydd

Corff yr IOPC yn ceisio darganfod beth achosodd i ddyn, 23, syrthio o ben to ffatri wrth i’r heddlu gyrraedd