Mae achos o Ffliw Adar wedi cael ei ddarganfod mewn adar gwyllt a dofednod mewn eiddo yn Sir Wrecsam, meddai Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop.
Mae parthau Rheoli Clefydau Dros Dro o 3km a 10km wedi’u gosod o amgylch yr eiddo bach sydd wedi’i heintio, er mwyn cyfyngu ar y risg o ledaenu’r clefyd.
Er bod ymchwiliad milfeddygol ar y gweill, mae’r adar gwyllt marw sydd wedi’u darganfod yn yr ardal wedi profi’n bositif am y feirws H5N1, a chredir mai nhw yw ffynhonnell yr haint.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r risg i iechyd y cyhoedd yn sgil y feirws yn isel iawn, ac nid yw’r achosion hyn yn peri risg diogelwch bwyd i ddefnyddwyr yn y Deyrnas Unedig.
Maen nhw’n annog aelodau’r cyhoedd i beidio â chodi na chyffwrdd unrhyw adar sâl neu farw, ac i gysylltu â llinell gymorth Defra yn lle.
Cafodd yr achos diwethaf o ffliw adar ei gofnodi yng Nghymru ym mis Ionawr eleni, ond mae cadarnhad hefyd bod canfyddiadau tebyg o ffliw adar mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig ac Ewrop.
Dylai unrhyw geidwaid adar gadw golwg am arwyddion o’r clefyd, fel mwy o farwolaethau neu ofid resbiradol.
Mae gofyn i geidwaid gysylltu â’u milfeddygon am gyngor prydlon os oes ganddyn nhw bryderon am iechyd eu hadar.
“Risg isel iawn”
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop: “Mae Ffliw Adar wedi ei ddarganfod mewn dofednod ac adar gwyllt yn ardal Wrecsam.
“Mae hyn yn dystiolaeth bellach o’r angen am i bawb sy’n cadw dofednod ac adar caeth i sicrhau bod ganddynt y lefelau bioddiogelwch uchaf yn eu lle.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod y risg i iechyd y cyhoedd o Ffliw Adar yn isel iawn ac mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi nodi’n glir nad yw’n peri risg diogelwch bwyd i ddefnyddwyr y Deyrnas Unedig.
“Mae parthau rheoli dros dro wedi’u gosod i helpu i atal y clefyd rhag lledaenu ymhellach.
“Rhaid rhoi gwybod ar unwaith i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion am unrhyw amheuaeth o ffliw adar neu unrhyw glefyd arall y dylid hysbysu amdano.”