Bydd yn rhaid i bob adeilad ysgol a choleg newydd fodloni targedau carbon sero-net o 1 Ionawr 2022, meddai’r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles.

Fe fydd hefyd yn berthnasol i bob gwaith adnewyddu mawr ac estyniadau, a bydd rhaid i adeiladau greu allyriadau sero carbon neu garbon negyddol.

Yn ogystal, bydd angen i’r genhedlaeth gyntaf o ysgolion a cholegau o dan y rheolau hyn sicrhau gostyngiad o 20% yn lefel y carbon a gaiff ei allyrru gan y deunyddiau adeiladu a’r broses adeiladu.

Bydd gostyngiadau pellach yn ofynnol yn y dyfodol, er mwyn cyd-fynd â chynlluniau ehangach Llywodraeth Cymru i symud tuag at ddyfodol sero-net.

Ynghyd â hynny, bydd cynlluniau “uchelgeisiol” ar gyfer yr adeiladau newydd o ran bioamrywiaeth, teithio llesol a chyfleusterau gwefru cerbydau trydan.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y cynlluniau yn ei helpu i gyflawni ei hymrwymiad i fod yn garbon sero-net erbyn 2050.

“Gosod esiampl”

Ysgol gynradd newydd Llancarfan ym Mro Morgannwg fydd ysgol carbon sero-net gyntaf Cymru, ac mae disgwyl iddi gael ei chwblhau ddechrau 2022.

Bydd gan yr ysgol gyfleusterau ei hun i gynhyrchu ynni a storio batris ar y safle, a bu Jeremy Miles yn ymweld â’r safle gan ddweud y “dylen nid i gyd fod yn holi ein hunain pa gamau y gallwn ni eu cymryd i ddadwneud y niwed sy’n deillio o newid hinsawdd”.

“Yn Llancarfan, rydyn ni eisoes yn darparu’r ysgol carbon sero-net gyntaf. Mae sicrhau bod adeiladau’r dyfodol yn gwneud cyfraniad positif yn gam pwysig y gallwn ni ei gymryd.

“Yn greiddiol i’n cwricwlwm newydd mae ein nod i gefnogi dysgwyr i fod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sydd wedi ymrwymo i gynaliadwyedd y blaned.

“Mae’n hanfodol ein bod yn gosod esiampl i bobl ifanc os ydyn ni i wireddu’r uchelgais hwn.”

“Rhaid” gweithredu

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac Aelod Addysg ac Adfywio’r Cabinet, eu bod nhw’n “eithriadol o falch” o fod yn agor yr ysgol sero-net gyntaf yng Nghymru yn y Fro.

“Mae newid hinsawdd yn her enfawr ledled y byd, ac yn un y mae’n rhaid inni i gyd weithredu i fynd i’r afael â hi,” meddai Lis Burnett.

“Ers datgan argyfwng hinsawdd yn 2019, rydyn ni wedi sefydlu Prosiect Sero, ein cynllun i’r Cyngor fod yn garbon-niwtral erbyn 2030. Mae’r adeilad hwn yn gam pwysig tuag at wireddu ein gweledigaeth.

“Mae wedi’i gynllunio nid dim ond i leihau ein hallbwn carbon, ond i gynnig amgylchedd dysgu o’r radd flaenaf lle gall cenedlaethau’r dyfodol ddysgu sut i leihau eu hallbwn hwythau.”

Bydd y gofyniad Carbon Sero-Net newydd yn rhan o raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif.

O 1 Ionawr 2022, yr enw ar y rhaglen fydd Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, a gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, colegau, Colegau Cymru, a chyfarwyddwr esgobaethol, mae 180 o brosiectau wedi cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru hyd yma i greu ysgolion a cholegau newydd neu eu gwella.