Mae’r Deyrnas Unedig wedi croesawu penderfyniad Ffrainc i “gamu’n ôl” o’u bygythiadau i osod sancsiynau ar y wlad yn sgil ffrae am drwyddedau pysgota wedi Brexit.
Roedd Ffrainc wedi bygwth atal cychod o Brydain rhag dadlwytho eu pysgod yn rhai o borthladdoedd Ffrainc, a thynhau archwiliadau ar longau sy’n teithio rhwng Ffrainc a’r Deyrnas Unedig, o hanner nos heddiw (2 Tachwedd), yn sgil y ffrae.
Fodd bynnag, mae Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, wedi dweud na fydden nhw’n gweithredu yn erbyn cychod o’r Deyrnas Unedig nawr, ac y bydd trafodaethau’n parhau.
Yn ôl Ffrainc, mae awdurdodau’r Deyrnas Unedig yn gwrthod rhoi trwyddedau i gychod Ffrengig, ac roedd y bygythiadau’n rhan o’r brotest yn erbyn hynny.
Mae Ysgrifennydd yr Amgylchedd yn San Steffan, George Eustice, wedi croesawu’r ffaith fod y bygythiadau wedi cael eu tynnu’n ôl, ond dywedodd y bydd cyfarfod rhwng y ddwy wlad ddydd Iau (4 Tachwedd) yn “bwysig iawn”.
Fe wnaeth George Eustice awgrymu hefyd fod cwch o’r Alban, oedd wedi cael ei meddiannu gan awdurdodau Ffrainc yn sgil “dryswch gweinyddol” yn ystod y ffrae, wedi cael ei rhyddhau bellach.
“Croesawu”
Dywedodd George Eustice wrth Sky News: “Rydyn ni’n croesawu’r ffaith fod Ffrainc wedi camu’n ôl o’r bygythiadau’r oedden nhw’n eu gwneud ddydd Mercher diwethaf.
“Rydyn ni wastad wedi dweud ein bod ni eisiau tawelu hyn, a wastad wedi dweud bod gennym ni ddrws agored i drafod unrhyw dystiolaeth bellach y gallai Ffrainc neu’r Undeb Ewropeaidd fod ag unrhyw gychod ychwanegol yr hoffen nhw eu trwyddedu.
“Mae Ffrainc yn amlwg wedi cymryd y penderfyniad i beidio â chyflwyno rhai o’r camau roedden nhw’n eu bygwth ddydd Mercher diwethaf, rydyn ni’n croesawu hynny’n fawr, ond dw i’n meddwl y bydd yna gyfarfod pwysig iawn ddydd Iau rhwng yr Arglwydd Frost a’i weinidog cyfatebol, nid yn unig ar bysgodfeydd ond ar ystod ehangach o faterion hefyd.”
Dywedodd George Eustice ei fod ar ddeall bod y cwch, y Cornelis Gert Jan, a gafodd ei dal yn y ffrae ddiplomyddol, wedi cael ei rhyddhau.
Cyn i Emmanuel Macron dynnu’r bygythiadau’n ôl, roedd Downing Street wedi dweud bod ganddyn nhw gynlluniau “cadarn” wrth gefn petai’r bygythiadau’n amharu ar fasnach.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, Liz Truss, y byddai’r Deyrnas Unedig yn dechrau her gyfreithiol dan gytundeb masnach Brexit, a doedden nhw heb ddiystyru dial chwaith.
Mae’r Deyrnas Unedig wedi rhoi trwyddedau i 98% o’r cychod o’r Undeb Ewropeaidd sydd wedi gwneud ceisiadau i bysgota yn nyfroedd Prydain.
Ond mae’r ddadl yn ymwneud â chaniatáu mynediad i gychod bach, dan 12 medr. Roedd y llywodraeth ym Mharis yn anfodlon mai dim ond 12 o drwyddedau oedd wedi cael eu rhoi i’r cychod hyn gan y Deyrnas Unedig, o 47 cais.
Mae’r ffigwr wedi codi i 18 bellach, ond mae’n rhaid i gychod ddangos eu bod nhw wedi pysgota yn nyfroedd y Deyrnas Unedig am un diwrnod ym mhob blwyddyn rhwng 2012 a 2016 er mwyn bod yn gymwys am drwydded.