Mae llysgennad Ffrainc i’r Deyrnas Unedig wedi cael ei alw i’r Swyddfa Dramor wrth i’r ffrae dros hawliau pysgota ar ôl Brexit gynyddu’n sylweddol.
Bydd Catherine Colonna yn cael ei holi ddydd Gwener (29 Hydref) am fygythiadau Paris ynghylch yr hyn y mae’n honni yw diffyg trwyddedau i gychod Ffrengig bysgota yn nyfroedd y DU.
Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Liz Truss, wedi cymryd y cam anarferol yn dilyn pryder am y ffrae ar ol i gwch bysgota o’r DU gael ei chadw mewn porthladd yn Ffrainc.
Mae gweinidogion Ffrainc wedi rhybuddio y byddan nhw’n atal cychod Prydeinig o rai porthladdoedd yn Ffrainc ac yn tynhau archwiliadau ar longau sy’n teithio rhwng Ffrainc a’r DU os na fydd y mater yn cael ei ddatrys erbyn dydd Mawrth (2 Tachwedd).
Maen nhw hefyd wedi bygwth cyflenwad trydan i Ynysoedd y Sianel.
‘Siomedig ac anghymesur’
“Rwyf wedi cyfarwyddo Gweinidog Ewrop Wendy Morton i alw Llysgennad Ffrainc i’r DU am drafodaethau… i esbonio’r bygythiadau siomedig ac anghymesur a wnaed yn erbyn y DU ac Ynysoedd y Sianel,” meddai’r Ysgrifennydd Tramor, Liz Truss.
Fe wnaeth gweinidogion y DU gyfarfod ddydd Iau (28 Hydref) i ystyried yr ymateb, gyda’r posibilrwydd o weithredu yn yr un modd os yw Ffrainc yn cyflawni ei bygythiadau.
Dywedodd y Gweinidog Brexit, yr Arglwydd Frost, a gadeiriodd y cyfarfod: “Rwy’n parhau i bryderu am gynlluniau Ffrainc ar bysgodfeydd a thu hwnt”, gan ychwanegu “ein bod yn disgwyl clywed mwy” heddiw (29 Hydref).
Mae’r Llywodraeth o’r farn bod y camau gweithredu arfaethedig yn “ddiamod” ac yn cwestiynu a oeddent yn gydnaws â chytundeb masnach y DU a’r Undeb Ewropeaidd “neu gyfraith ryngwladol ehangach”.
Cafodd y cwch pysgota Cornelis Gert Jan ei dargyfeirio i borthladd Le Havre ddydd Mercher (27 Hydref) ar ôl i awdurdodau Ffrainc ddweud ei fod yn pysgota yn nyfroedd Ffrainc heb drwydded.
Dywedodd y Ffrancwyr fod cwch arall o Brydain hefyd wedi cael dirwy ar ôl gwrthod caniatáu i’r heddlu gynnal gwiriadau.
Dywedodd perchennog cwch y Cornelis, Macduff Shellfish, fod y cwch wedi bod yn pysgota’n gyfreithlon yn nyfroedd Ffrainc ac wedi galw ar Lywodraeth Prydain i ddiogelu hawliau pysgotwyr Prydain.
“Mae’n ymddangos bod ein llong wedi cael ei dal yn yr anghydfod parhaus rhwng y DU a Ffrainc ar weithredu cytundeb pysgota Brexit,” meddai Andrew Brown, cyfarwyddwr cynaliadwyedd a materion cyhoeddus Macduff.
“Annerbyniol”
Dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd George Eustice fod y Llywodraeth yn ymchwilio i’r hyn oedd wedi digwydd.
Dywedodd wrth ASau ddydd Iau bod yr UE wedi rhoi trwydded i’r llong ond bod adroddiadau ei bod wedi ei thynnu o’r rhestr o longau a ganiatawyd i bysgota yn nyfroedd Ffrainc am resymau nad oedd yn glir.
Yn gynharach, dywedodd gweinidog Ewrop Ffrainc Clement Beaune wrth sianel newyddion teledu Ffrainc CNews: “Mae angen i ni siarad iaith grym oherwydd, yn anffodus, mae’n ymddangos mai dyna’r unig beth y mae’r Llywodraeth Brydeinig hon yn ei ddeall.”
Dywedodd gweinidog morol Ffrainc, Annick Girardin, wrth raglen newyddion radio Ffrainc RTL Matin fod “methiant Prydain i gydymffurfio” â Chytundeb Masnach a Chydweithredu’r DU-UE (TCA) yn “annerbyniol”.
“Dyw e ddim yn rhyfel, mae’n frwydr,” meddai.
“Mae gennym hawliau pysgota, mae’n rhaid i ni eu hamddiffyn a byddwn yn eu hamddiffyn.”