Mae Aelodau Seneddol wedi galw am atal y gwaith o adeiladu rhagor o ‘draffyrdd clyfar’ (smart motorways) oherwydd pryderon am ddiogelwch.

Mae adroddiad gan y Pwyllgor Seneddol ar Drafnidiaeth yn dweud nad oes digon o ddata diogelwch ac economaidd i gyfiawnhau parhau gyda’r prosiect.

Yn ôl yr ASau roedd penderfyniad y Llywodraeth ym mis Mawrth 2020 i gael gwared a’r llain galed a defnyddio pob lôn ar y draffordd yn gamgymeriad.

Mae pryderon wedi codi yn dilyn nifer o wrthdrawiadau angheuol lle mae cerbydau sydd wedi torri lawr wedi cael eu taro o’r tu ôl.

Roedd protestwyr sy’n gwrthwynebu’r traffyrdd clyfar wedi gorymdeithio i’r Senedd ddydd Llun (1 Tachwedd) yn cludo eirch.

Mae’r pwyllgor wedi annog gweinidogion i “ystyried opsiynau amgen i gynyddu capasiti” ar draffyrdd. Mae’r adroddiad yn galw am atal adeiladu rhagor o’r traffyrdd clyfar am bum mlynedd nes bod mwy o wybodaeth diogelwch ac economaidd ar gael.

Mae traffyrdd clyfar sydd wedi eu rheoli – lle mae llain galed barhaol a thechnoleg yn cael ei defnyddio i reoli cyflymder a llif y traffig – ymhlith y rhai sydd “a’r cyfraddau damweiniau isaf” o’r holl draffyrdd a phrif ffyrdd yn Lloegr, yn ôl yr adroddiad.

Mae’n galw ar yr Adran Drafnidiaeth i ail-ystyried yr achos dros eu cyflwyno yn hytrach na’r traffyrdd clyfar lle mae pob lôn yn cael ei defnyddio.

Mae teuluoedd y rhai sydd wedi’u lladd ar draffyrdd clyfar wedi galw am adfer y llain galed ar draffyrdd yn barhaol. Ond nid yw’r pwyllgor wedi’u hargyhoeddi y byddai polisi o’r fath yn gwella diogelwch.

Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth y byddai’n ystyried yr argymhellion yn ofalus ac yn ymateb yn ffurfiol cyn bo hir. Ychwanegodd bod yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth wedi clustnodi £500 miliwn ar gyfer uwchraddio’r traffyrdd.

Cafodd traffyrdd clyfar eu cyflwyno yn Lloegr yn 2014 fel ffordd ratach o gynyddu capasiti o’i gymharu â gwneud y lonydd yn fwy llydan.

Mae tua 375 milltir o draffyrdd clyfar yn Lloegr, gan gynnwys 235 milltir heb lain galed.